Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Y cyngor yn cadarnhau ei safbwynt ar gerfluniau dadleuol

Yn dilyn protestiadau ac ardystiadau cenedlaethol fel rhan o’r mudiad Mae Bywydau Duon o Bwys, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cadarnhau nad yw'n gofalu am, nac yn cynnal, unrhyw gerfluniau dadleuol o ffigurau hanesyddol yn yr ardal.

Mae'r protestiadau wedi arwain sawl cyngor yn y DU i gymryd camau i dynnu nifer o gerfluniau o ffigurau hanesyddol i lawr, a gofynnir i awdurdodau lleol hefyd ystyried a allai fod gan adeiladau, parciau, caeau chwarae a strydoedd gysylltiadau ag unigolion a feirniadwyd fel rhan o'r protestiadau.

Dywedodd arweinydd y cyngor, Huw David: “Yn gyntaf, hoffwn gadarnhau nad yw Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn goddef unrhyw fath o hiliaeth o gwbl, nac unrhyw ffurfiau eraill ar aflonyddu a gwahaniaethu. Rydym yn cefnogi aelodau o'n cymuned a'n staff sy'n bobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yn llawn, ac mae gennym ymroddiad i'r hirdymor i fynd i'r afael ag unrhyw anghydraddoldebau yn ein cymunedau.

“Ymhellach, gallaf gadarnhau nad yw'r cyngor yn cynnal unrhyw gerfluniau na chofebau sy’n  coffáu ffigurau dadleuol ym mwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Er nad ydym yn ymwybodol o unrhyw adeiladau sy'n eiddo i'r cyngor neu strydoedd lleol sydd wedi'u henwi'n benodol ar ôl ffigur hanesyddol dadleuol, rydym yn deall y gallai rhai strydoedd rannu cyfenwau tebyg, a bod hynny'n creu llawer o ddryswch.

“Enghraifft o'r fath yw’r defnydd o’r enw Picton mewn cymunedau drwy gydol yr ardal. Er bod rhai'n cymryd bod hwn yn gysylltiedig â'r perchennog creulon ar gaethweision a llywodraethwr dadleuol Trinidad, Syr Thomas Picton, mae eraill yn credu ei bod yn fwy tebygol ei fod yn gysylltiedig â'r is-gyrnol Thomas Picton-Turberville, sef cyn-berchennog ar Briordy Ewenni.

“Bydd angen ymchwilio i'r mater hwn, a'i ystyried yn fwy manwl, ond os bydd unrhyw drigolyn am wneud cais i newid enw stryd, mae proses gyfreithiol eisoes yn ei lle er mwyn cefnogi hynny.

“Mae'r broses honno'n rhoi ystyriaeth i ymgynghoriad priodol â thrigolion, busnesau yr effeithir arnynt, y Post Brenhinol a chynghorau trefol a chymunedol lleol, ac mae hefyd yn egluro effaith ariannol gwneud y newidiadau angenrheidiol i ddogfennau swyddogol fel gweithredoedd morgeisi a mwy.”

Chwilio A i Y