Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Y Cyngor yn awyddus i fod yn rhan o chwyldro ynni glân y DU

Bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn rhan o gonsortiwm a fydd yn gwneud cynnig am gyfran o £40 miliwn o gyllid y llywodraeth ganolog, er mwyn datblygu ffyrdd o ddatgarboneiddio defnydd ynni’r ardal leol.

Mae angen mawr i ddod o hyd i opsiynau amgen sy’n rhatach ac yn lanach na thanwyddau ffosil, ac y gellir eu defnyddio ar raddfa eang, felly mae’r llywodraeth wedi creu rhaglen ‘Prospering from the Energy Revolution’ a fydd yn dyrannu’r cyllid i dri phrosiect arloesol a dewisir o hyd a lled y DU.

Ymhlith y rheiny sy’n rhoi cynnig arni yw consortiwm Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a arweinir gan Cenin Renewables, cwmni sydd wedi’i leoli ym Mharc Stormy ger Porthcawl.

Mae manylion llawn eu cynnig ar gyfer chwyldroi ynni lleol yn cael eu cadw’n gyfrinachol gan eu bod yn destun cyfrinachedd masnachol.

Serch hyn, y bwriad cyffredinol yw i safle Cenin Renewables ddefnyddio ei allu i gynhyrchu pŵer yn lleol a dangos sut y gallai hyn gael ei integreiddio’n ddigidol â rhwydwaith gwres arfaethedig ar gyfer canol tref Pen-y-bont ar Ogwr. Byddai gwneud hyn yn creu atebion arloesol ar gyfer y system egni yn ei chyfanrwydd ac yn esgor ar fuddion i fusnesau a phreswylwyr.

Yr wythnos hon, nododd Aelodau Cabinet o Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr eu bod yn awyddus i’r awdurdod lleol ymuno â’r consortiwm, er mwyn cyfuno arbenigedd o’r sectorau cyhoeddus a phreifat.

Rydym yn awyddus iawn i fod yn rhan o’r consortiwm gan ei fod yn gysylltiedig â phrosiectau ynni glân eraill sydd eisoes ar waith yn lleol, megis ein cynnig ar gyfer rhwydwaith gwres a fyddai’n dechrau drwy gysylltu ag adeiladau cyhoeddus yng nghanol tref Pen-y-bont ar Ogwr, ac yn y pen draw yn cysylltu ag ardaloedd preswyl dwys fel Bracla ynghyd â dwsinau o ysgolion ac adeiladau cyhoeddus eraill. Rydym yn gweithio ar hyn o bryd ar sicrhau cyllid ar gyfer y cynllun penodol hwnnw

Bwriad tymor hir y llywodraeth yw creu technolegau glân sy’n costio’n llai nag opsiynau eraill sy’n uwch mewn carbon, ac i fusnesau’r Deyrnas Unedig achub y blaen wrth eu cyflenwi i farchnadoedd byd-eang. Rydym ni eisiau i Fwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr fod yn rhan o’r chwyldro ynni hwn.

Er ei fod yn rhy gynnar i ddatgelu graddfa lawn cynigion y consortiwm, rwy’n gyffrous iawn fod yr hyn sy’n cael ei gynllunio yn gallu cynnig buddion amgylcheddol sylweddol drwy leihau allyriadau carbon a chyfrannu tuag at ein nod tymor hir o ddatgarboneiddio Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr erbyn 2050.

Dywedodd y Cynghorydd Richard Young, Aelod y Cabinet dros Gymunedau

“Rydw i hefyd wedi fy nghyffroi gan y potensial ar gyfer trechu tlodi tanwydd a mynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd ymhlith preswylwyr, a’r cyfleoedd i fusnesau lleol o ran y gadwyn gyflenwi. Rwy’n falch iawn bod yr awdurdod lleol yn cymryd rhan a bydd yn ddiddorol gweld sut y bydd y sector hwn yn datblygu dros y blynyddoedd sydd i ddod.”

Bydd mwy na £2.5 biliwn o gyllid gan y llywodraeth yn cael ei fuddsoddi mewn arloesi carbon-isel hyd at 2021, yn rhan o’r cynnydd mwyaf mewn gwariant cyhoeddus ar wyddoniaeth, ymchwil ac arloesi ers mwy na a30 mlynedd.

Chwilio A i Y