Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Y cyngor yn arwain y ffordd drwy ddefnyddio goleuadau traffig dros dro modern

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn hynod falch o lwyddiant system oleuadau traffig dros dro sy’n cael ei defnyddio ar hyn o bryd ar gyfer gwaith adnewyddu yng nghanol tref Pen-y-bont ar Ogwr.

Y gyntaf o’i math yng Nghymru, mae’r system fodern yn cael ei defnyddio yn ystod y gwaith o uwchraddio’r goleuadau traffig a leolir ger cyffordd Stryd y Parc a Stryd yr Angel, ar hyd yr A473. Sicrhawyd cyn lleied â phosib o oedi ac mae’r holl adborth wedi bod yn gadarnhaol.

Dyluniwyd y system i efelychu trefn y goleuadau traffig gwreiddiol er mwyn galluogi i lif y traffig symud mor arferol â phosib. Mae swyddogion y cyngor hefyd yn monitro’r llif traffig er mwyn sicrhau bod y system yn effeithiol.

Mae’r gwaith o adnewyddu’r goleuadau traffig presennol yn angenrheidiol gan eu bod dros 25 mlwydd oed ac mae’r gwaith o’u huwchraddio yn hanfodol er mwyn diogelu cerddwyr, yn ogystal â sicrhau bod y traffig yn cael ei reoli yn y ffordd orau bosib ar un o ffyrdd prysuraf y fwrdeistref sirol.

Mae’r gwaith yn dilyn o’r gwaith a gwblhawyd ar y goleuadau traffig yn flaenorol ger cyffordd yr A473 gyda Broadlands.

Bwriedir i’r gwaith gael ei gwblhau o fewn y pum wythnos nesaf.

Rwy’n croesawu’r newidiadau hanfodol sy’n cael eu gwneud i’r system oleuadau traffig ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Mae’n braf gweld bod y cyngor yn arwain y ffordd, drwy arloesi’r system newydd dros dro hon, er mwyn sicrhau bod gwelliannau’n cael eu cyflawni gyda chyn lleied o anghyfleustra â phosib i yrwyr

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Gymunedau, y Cynghorydd John Spanswick:

Chwilio A i Y