Y cyngor yn apelio i fusnesau am gyfarpar diogelu personol
Poster information
Posted on: Dydd Iau 26 Mawrth 2020
Mae apeliadau'n cael eu gwneud i gwmnïau ar draws Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr am gyfarpar diogelu personol diangen i helpu staff gofal cymdeithasol a staff ysgolion sy'n darparu gofal plant brys tra bydd y coronafeirws yn parhau.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn apelio am y cyfarpar diogelu personol, sy'n cynnwys mygydau, menig glas nitril a ffedogau plastig.
Mae prinder byd-eang o gyfarpar diogelu personol ac er ein bod yn dosbarthu'r rhai a gyrhaeddodd ar ddechrau'r wythnos, ni fydd y rhain yn para am hir.
Mae ein staff ar y rheng flaen, yn gofalu am bobl yn eu cartrefi ac mewn cartrefi preswyl, yn ogystal â'n gwirfoddolwyr yn y canolfannau gofal plant brys sydd wedi eu sefydlu i ofalu am blant gweithwyr allweddol. Mae angen dybryd arnom i ddiogelu'n staff rhag mynd yn sâl.
Mae nifer o gwmnïau sydd wedi rhoi’r gorau i gynhyrchu yn ystod y dyddiau diwethaf, ac rydym yn apelio i unrhyw rai a all ein helpu gyda chyflenwi cyfarpar diogelu personol i gysylltu â ni wrth i ni ymladd yn erbyn y feirws marwol anweladwy hwn.
Dywedodd arweinydd y cyngor, Huw David
Gofynnir i unrhyw un sy'n gallu helpu i gysylltu â'r cyngor drwy e-bostio Covid19@bridgend.gov.uk