Y cyngor yn apelio ar ofalwyr i gamu ymlaen
Poster information
Posted on: Dydd Mawrth 12 Ionawr 2021
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn galw ar breswylwyr sydd â phrofiad o weithio o fewn gofal cymdeithasol i helpu i gefnogi'r bobl hynny mewn angen yn ystod y pandemig coronafeirws.
Mae nifer o swyddi â thâl ar gael o fewn yr awdurdod lleol ar hyn o bryd, a chroesawir y bobl hynny sydd wedi gweithio mewn gofal cymdeithasol yn y gorffennol, ac sydd â sgiliau trosglwyddadwy, i ymgeisio.
Dywedodd yr aelod cabinet dros wasanaethau cymdeithasol a chymorth cynnar, Nicole Burnett: "Mae ein gwasanaethau gofal cymdeithasol dan bwysau enfawr ar hyn o bryd, oherwydd pandemig parhaus coronafeirws. Os oes gennych brofiad o weithio o fewn y sector, rydym eich angen chi, a gallwch helpu i wneud gwahaniaeth sylweddol i fywydau pobl leol.
"Mae gofal cymdeithasol yn waith hanfodol, gwerth chweil sy'n cael effaith gadarnhaol. Rydym yn byw mewn cyfnod ansicr, ac mae nifer o bobl angen ein help a chefnogaeth. Rydym yn annog y bobl hynny sydd â diddordeb mewn helpu i ofalu a chefnogi pobl mewn angen i gysylltu â ni."
Mae'r awdurdod lleol yn cefnogi mwy na 4,000 o breswylwyr mewn cartrefi gofal, a chartrefi eu hunain, ar draws y fwrdeistref sirol.
Os oes gennych ddiddordeb mewn gweithio mewn gofal cymdeithasol, neu rydych eisiau dysgu mwy, cysylltwch â'r tîm recriwtio ar 01656 643205 neu e-bostiwch recruitment@bridgend.gov.uk.
Gallwch hefyd fynd i'r tudalen swyddi gwag gofal cymdeithasol i bori drwy swyddi ac ymgeisio amdanynt gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, a gwylio clipiau fideo o staff yn siarad am eu swyddi.