Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Y Cyngor yn annog pobl LGBT i faethu a mabwysiadu ym Mhen-y-bont ar Ogwr

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cefnogi Wythnos Maethu a Mabwysiadu LGBT (5 - 11 Mawrth) drwy annog aelodau lesbiaid, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol (LGBT) o’r gymuned leol i ystyried maethu plant mewn angen.

Ar hyn o bryd, mae dau bâr o’r un rhyw ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn ofalwyr maeth. Dywedodd un ohonynt, Sarah a Sarah Peel o Borthcawl: “Rydym bob amser wedi bod yn awyddus i helpu plant sydd angen hafan ddigyffro a diogel mewn cyfnod cythryblus yn eu bywydau, yn ogystal ag ymestyn ein teulu ein hunain. Rydym wedi bod yn maethu ers blwyddyn erbyn hyn ac yn gobeithio y cawn barhau i faethu ymhell i’r dyfodol.

“Mae maethu wedi golygu llawer o uchafbwyntiau ac isafbwyntiau inni o ran emosiynau a phrofiadau. Mae’n un o’r pethau anoddaf a mwyaf boddhaus yr ydym ni erioed wedi’i wneud ac rydym wedi dysgu cymaint o’r profiad.

“Ni ddylai rhywioldeb atal rhywun rhag ystyried maethu oherwydd y cyfan sydd ei angen ar blentyn yw teulu sy’n gallu cynnig cariad a sefydlogrwydd.”

Mae angen cartref sefydlog a chariadus ar lawer o blant ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, ac mae’r cyngor yn awyddus i annog gofalwyr maeth LGBT posibl eraill i gynnig eu hunain i fod yn ofalwyr maeth. Mae angen gofalwyr yn arbennig ar grwpiau o frodyr a/neu chwiorydd sy’n aml yn cael eu gwahanu neu’n gorfod aros am amser hir i gael teulu i ofalu amdanynt.

Rydym yn falch ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr o gefnogi ymgyrch flynyddol Wythnos Maethu a Mabwysiadu LGBT. Mae’n gyfle perffaith i amlygu’r ffaith ein bod yn croesawu gofalwyr maeth LGBT ac rydym eisiau ysbrydoli rhagor o bobl i wneud cyfraniad cadarnhaol i fywydau plant sy’n derbyn gofal.

Mae yna lawer o resymau gwych dros faethu, er enghraifft gallwch ennill cymwysterau cydnabyddedig a theimlo eich bod wedi cyflawni rhywbeth trwy helpu rhywun mewn cyfnod hollbwysig yn ei fywyd. Gallwch hefyd helpu’r gymdeithas trwy arwain person ifanc at fywyd gwell. Gall rhieni LGBT gynnig safbwynt gwahanol i bobl ifanc ar y gymdeithas.

Mae angen mawr iawn am ragor o ofalwyr maeth ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Felly, os gallwch chi gynnig amgylchedd diogel a chariadus i blentyn neu ddau - neu dri hyd yn oed - rydym yn eich annog i godi’r ffôn a gwneud ymholiadau am sut y gallwch gychwyn ar y broses. Edrychwn ymlaen at glywed gennych!

Cynghorydd Dhanisha Patel, Aelod Cabinet dros Lesiant a Chenedlaethau’r Dyfodol.

Caiff Wythnos Maethu a Mabwysiadu LGBT ei chynnal gan New Family Social, y rhwydwaith ar gyfer teuluoedd mabwysiadu a maethu LGBT.

I gael rhagor o wybodaeth am sut i faethu ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, cysylltwch â Gofal Maethu Pen-y-bont ar Ogwr ar 01656 642674.

Chwilio A i Y