Y Cyngor yn annog mabwysiadwyr a gofalwyr maeth LHDT+
Poster information
Posted on: Dydd Iau 27 Chwefror 2020
Bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cefnogi Wythnos Maethu a Mabwysiadu LHDT+ trwy annog aelodau o'r gymuned leol sy'n lesbiaidd, hoyw, deurywiol, trawsrywedd ac â mynegiannau rhywedd eraill (LHDT+) i ystyried mabwysiadu neu faethu plant yn y fwrdeistref sirol.
Bydd Wythnos Maethu a Mabwysiadu LHDT+ 2020 yn rhedeg o ddydd Llun 2 Mawrth tan ddydd Sul 8 Mawrth.
Bwriad 'Pam nad chi?', sef thema eleni, yw mynd i'r afael â rhai o'r mythau ynghylch mabwysiadu a maethu ar gyfer pobl LHDT+.
Gyda llawer o blant sydd angen cartref sefydlog a chariadus ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, mae'r cyngor yn awyddus i annog mabwysiadwyr a gofalwyr maeth posibl eraill o’r gymuned LHDT+ i gamu ymlaen.
Mae Gofal Maeth Pen-y-bont ar Ogwr a Gwasanaeth Mabwysiadu Bae’r Gorllewin yn darparu gwybodaeth helaeth am bwy all fabwysiadu a maethu yn ogystal â gwybodaeth am y broses mabwysiadu a maethu yn y fwrdeistref sirol.
Mae ond ychydig o gyfyngiadau ar gyfer mabwysiadwyr a gofalwyr maeth posib: rhaid ichi fod dros 21 oed, heb unrhyw rybuddiadau nag euogfarnau yn erbyn plant, a bod ag ymrwymiad at gadw plant a phobl ifanc yn ddiogel.
Mae Wythnos Maethu a Mabwysiadu LHDT+ yn gyfle perffaith i ni gael tynnu sylw at y ffaith ein bod yn croesawu gofalwyr LHDT+ ac ein bod am ysgogi mwy o bobl i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau plant mewn gofal.
Mae nifer o resymau gwych dros faethu, fel y ffaith y byddwch yn ennill cymwysterau cydnabyddedig a chael ymdeimlad o gyflawniad wrth helpu rhywun ar adeg dyngedfennol o'i fywyd.
Y fantais a gewch o fod yn rhan o Ofal Maeth Pen-y-bont ar Ogwr yw eich bod yn cadw plant Pen-y-bont ar Ogwr o fewn y fwrdeistref sirol. Felly, os gallwch gynnig amgylchedd cariadus a diogel ar gyfer plentyn, rydym yn eich annog i godi'r ffôn a darganfod mwy ynglŷn â sut gallwch ddechrau eich taith maethu.
Cynghorydd Phil White, Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar
Mae Wythnos Maethu a Mabwysiadu LHDT+ yn cael ei chynnal gan New Family Social, y rhwydwaith ar gyfer teuluoedd LHDT+ sy’n mabwysiadu a maethu.
Ar gyfer gwybodaeth bellach ynghylch maethu neu fabwysiadu ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, cysylltwch â Gofal Maeth Pen-y-bont ar Ogwr ar 01656 642674 neu ewch i: http://www.bridgendfostercare.wales/cy/ neu cysylltwch â Gwasanaeth Mabwysiadu Bae'r Gorllewin ar 0300 365 2222 neu ewch i: https://westernbayadoption.org/cy/hafan/.