Y Cyngor i wrthwynebu cynlluniau ar gyfer canolfan newydd i droseddwyr
Poster information
Posted on: Dydd Gwener 12 Mawrth 2021
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cadarnhau ei fod yn bwriadu gwrthwynebu cynlluniau gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder i leoli Canolfan Breswyl i Droseddwyr Benywaidd newydd yn yr ardal leol.
Mae nifer o safleoedd posib ledled De Cymru wrthi’n cael eu hystyried fel lleoliadau ar gyfer y ganolfan, gan gynnwys Gwesty'r Atlantig ym Mhorthcawl a Sunnyside House yn nhref Pen-y-bont ar Ogwr.
Byddai'r ganolfan, y bwriedir iddi gadw troseddwyr benywaidd o Gymru yn agosach i'w cartref wrth ddarparu cefnogaeth adsefydlu ddwys fel rhan o ddedfryd gymunedol, yn cynnwys llety preswyl a hwb cymorth integredig.
Mae'r Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi gofyn am gael cyfarfod â Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i drafod addasrwydd y ddau safle lleol, ac mae wedi nodi ei bod yn bwriadu cyflwyno ceisiadau am newid defnydd yn y ddau leoliad.
Dywedodd Arweinydd y Cyngor, Huw David: “Er ein bod yn deall ac yn cefnogi’r rhesymeg dros sefydlu canolfan o’r fath yn Ne Cymru, Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yw’r lleoliad cwbl anghywir, a byddaf yn gwrthwynebu hyn yn chwyrn.
“Mae Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr eisoes yn gartref i garchar mwyaf De Cymru, a’r unig sefydliad i droseddwyr ifanc yng Nghymru. Yma hefyd mae’r unig gyfleuster diogelwch canolig ar gyfer pobl ag anghenion iechyd meddwl cymhleth yng Nghymru.
“Er gwaethaf hyn, nid yw’r ardal wedi cael y lefel o adnoddau neu gyllid ychwanegol sydd eu hangen ar gyfer darparu’r math o gefnogaeth hanfodol sy’n gysylltiedig â chyfleusterau o’r fath.
“Mae'r ystod o ofal a chefnogaeth y mae'n rhaid i'r cyngor a'i bartneriaid eu darparu ar gyfer carcharorion yn y carchar yn unig eisoes yn enfawr. Byddai cyflwyno Canolfan Breswyl i Droseddwyr Benywaidd yn ychwanegol i'r fwrdeistref sirol ond yn cynyddu hyn, a byddai'n rhoi straen sylweddol pellach ar y cyngor ar ôl iddo gael ei orfodi eisoes i dorri mwy na £60 miliwn o wasanaethau hanfodol dros y 10 mlynedd diwethaf.
“Nid oes a wnelo hyn ddim â nimby-yddiaeth - mae’n amlwg iawn bod Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr eisoes yn gartref i fwy na’i gyfran deg o safleoedd rhanbarthol a chenedlaethol ar gyfer pobl ag anghenion cymhleth, ac yn ein barn ni mae’r lleoliadau arfaethedig yn gwbl amhriodol ar gyfer cyfleuster o’r fath. Yn llythrennol, mae hwn yn safle y gellir ei gartrefu yn unrhyw le yng Nghymru, felly pam ei roi yma?
“Yn ogystal â bod yn safle ardderchog ar gyfer llety gwasanaeth ac yn elfen allweddol yn economi ymwelwyr y fwrdeistref sirol, byddai sefydlu canolfan breswyl i droseddwyr yng Ngwesty’r Atlantig yn peryglu ein hymdrechion parhaus i ddenu buddsoddiad pellach o filiynau o bunnoedd fel rhan o'n Strategaeth i Adfywio Porthcawl.
“Nid oes amheuaeth y byddai colli’r gwesty yn effeithio ar ddigwyddiadau proffil uchel sydd wedi bod yn helpu i roi Porthcawl ar y map, fel yr Ŵyl Elvis fyd-enwog neu olyniaeth y twrnameintiau golff Agored i Chwaraewyr Hŷn y mae’r dref wedi’u cynnal.
“Yn yr un modd, o ystyried datblygiad parhaus pentref lles newydd sbon gwerth £23 miliwn a llety gwarchod yn Sunnyside yng nghanol tref Pen-y-bont ar Ogwr, rwy’n methu â gweld sut y byddai gosod y Canolfan Breswyl i Droseddwyr Benywaidd arfaethedig yn llythrennol yr ochr arall i’r ffordd yn ategu’r cynlluniau sydd eisoes ar y gweill ar gyfer lleoli gwasanaethau i breswylwyr syn agored i niwed yn yr un fan.
“Ni ddylem ychwaith danamcangyfrif yr effaith y gallai hyn ei chael ar gyfrifoldebau diogelu. Rydym eisoes yn delio â materion diogelu risg uchel mewn perthynas â CEM Parc, Tŷ Liddiard a Chlinig Caswell, a byddai cyflwyno'r ganolfan newydd arfaethedig hon yn rhoi straen ychwanegol ar wasanaeth sydd eisoes yn wynebu heriau enfawr o ran adnoddau a’r galw.
“Bydd cyflwyno nifer fawr o bobl sydd angen gofal a chefnogaeth eang yn yr un o’r lleoliadau arfaethedig yn rhoi pwysau sylweddol ar wasanaethau sy’n bodoli eisoes, bydd goblygiadau tebyg ar gyfer gwasanaethau gofal sylfaenol ac eilaidd, a bydd yn effeithio ar ddiogelwch cymunedol a phlismona.
“I grynhoi, mae’r cyngor yn cydnabod bod angen gwasanaeth o’r fath yng Nghymru, ac mae’n cefnogi’r nod i’w gyflwyno.
“Yr hyn nad ydym yn ei gefnogi yw’r syniad y dylid ystyried safleoedd ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, nid pan fod gennym eisoes fwy na’n cyfran deg o gyfleusterau o’r fath yma, ac yn enwedig nid yng Ngwesty’r Atlantig ym Mhorthcawl na Sunnyside House ym Mhen-y-bont ar Ogwr.”
Ychwanegodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar, y Cynghorydd Nicole Burnett: “Byddai lleoli’r Canolfan Breswyl i Droseddwyr Benywaidd yma yn effeithio ar drigolion lleol a’r ardal ei hun yn ogystal ag ar adnoddau a staff yr awdurdod lleol.
“Byddai'n hynod annheg i bobl Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr pan rydym eisoes wedi croesawu mwy na'n cyfran deg o gyfleusterau o'r fath, a byddai’n peryglu nifer o'n cynlluniau adfywio yn ogystal â bod yn groes i fentrau parhaus eraill ac yn rhoi straen ychwanegol ar yr adnoddau cyfyngedig sy'n parhau i fod ar gael i ni.
“Dyma fydd safbwynt y cyngor pan fyddwn yn cwrdd â’r Weinyddiaeth Gyfiawnder i drafod eu cynlluniau, a gall preswylwyr fod yn dawel eu meddwl y byddwn yn apelio’n uniongyrchol at Lywodraeth y DU i ddadlau na ddylai Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ddod yn ganolbwynt ar gyfer y cynnig hwn.”