Y Cyngor i ganolbwyntio ar ddarparu gwasanaethau hanfodol
Poster information
Posted on: Dydd Mawrth 17 Mawrth 2020
Mae arweinydd Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr wedi dweud y bydd yr awdurdod lleol yn canolbwyntio ar ddefnyddio'i adnoddau i ddarparu gwasanaethau hanfodol yn ystod pandemig y coronafeirws.
Dywedodd y Cynghorydd Huw David y byddai'r cyngor yn blaenoriaethu gwasanaethau ar gyfer y trigolion sy’n fwyaf agored i niwed ac y byddai'r cyngor yn sicrhau bod pawb yn derbyn cymaint o wybodaeth â phosibl yn ogystal â chyngor a mesurau angenrheidiol.
Rydym yn wynebu sefyllfa nas gwelwyd ei thebyg o'r blaen o ran cynnydd cyflym coronafeirws. Rydym am sicrhau trigolion y byddwn yn cymryd pob cam angenrheidiol, mewn cydweithrediad â'n partneriaid, i gefnogi llesiant ein cymunedau cymaint â phosibl.
Rydym wedi gosod amrediad o fesurau ychwanegol ar waith er mwyn cydymffurfio ar unwaith â chyngor diweddaraf y llywodraeth. Er y byddwn yn ceisio parhau i ddarparu cynifer o wasanaethau cyhoeddus â phosibl, mae eisoes yn glir na fyddwn yn gallu darparu popeth yr ydym yn ei wneud fel arfer, ac wrth symud ymlaen bydd yn rhaid i ni ganolbwyntio ar ddefnyddio ein hadnoddau ar gyfer nifer llai o wasanaethau hanfodol am faint bynnag y bydd y sefyllfa bresennol yn parhau.
Lle bo hynny'n bosibl, a chyda'n partneriaid a gwirfoddolwyr, mae gwasanaethau ychwanegol yn cael eu rhoi ar waith ar gyfer y rheiny sydd wedi cael cyngor i hunan-ynysu. Gofynnwn am ddealltwriaeth trigolion na fydd yn bosibl i ni weithredu yn ôl yr arfer am gyfnod estynedig o amser. Bydd oedi anochel wrth ymateb i rai ymholiadau a thrin â materion o ddydd i ddydd.
Cynghorydd Huw David
O ddydd Mawrth, 17 Mawrth ymlaen, mae'r awdurdod lleol wedi canslo pob un o gyfarfodydd y cyngor yn y siambr a'r ystafelloedd pwyllgor.
Dywedodd y Cynghorydd David: “Bydd y cyfnod canslo hwn mewn grym hyd at ddydd Iau, 9 Ebrill er mwyn rhoi amser i ni ailystyried y mater yn sgil unrhyw newidiadau allweddol. Ond, mae'n bosib y bydd angen ymestyn y cyfnod hwnnw y tu hwnt i'r dyddiad hwn.
“Ar adegau fel hyn, mae aelodau etholedig yn chwarae rhan bwysicach fyth fel arweinwyr cymunedol, gan ddarparu sianel gyfathrebu rhwng trigolion a'r cyngor, a helpu i sicrhau eu bod yn parhau i dderbyn gwybodaeth ac yn aros yn ddigyffro.
“Oherwydd y cyflymder y mae pethau'n newid, rydym yn annog ein trigolion i gadw llygad agos ar ein tudalennau Facebook a Twitter, a'n gwefan, er mwyn cael y newyddion diweddaraf.
“Bydd hyn yn dilyn y canllawiau cenedlaethol a geir gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru.
“Ar draws y cyngor a'n sefydliadau partner, mae'r holl staff yn gweithio'n arbennig o galed er mwyn sicrhau ein bod mor barod â phosib.
“Mae cynlluniau gennym i ailddefnyddio staff yn ôl yr angen ac mae hyfforddiant y gellir ei gyflwyno’n gyflym ar gael er mwyn cefnogi meysydd o flaenoriaeth.
“Mae'n gyfnod heriol iawn, a hoffwn ddiolch i'n staff a phawb yn ein cymunedau, yn enwedig ein gwirfoddolwyr, ein clybiau a'n sefydliadau, am eu dealltwriaeth barhaus, eu gwaith anhygoel a'u cynigion o gymorth.
“Gadewch i ni eich sicrhau y byddwn yn parhau i fod yn wyliadwrus, yn hyblyg ac yn barod i weithredu trefniadau wrth gefn a fydd yn sicrhau y bydd gwasanaethau hanfodol yn parhau i gael eu darparu.”
Gofynnir i unrhyw un sydd am wirfoddoli i helpu dros yr wythnosau nesaf gysylltu â Chymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Pen-y-bont ar Ogwr trwy fynd i https://bridgend.volunteering-wales.net/vk/volunteers/my_opportunities_info_ur.htm?pid=10155682 neu ffonio 01656 810400.
Gall sefydliadau bostio'u swyddi gwag ar gyfer gwirfoddoli yma: https://bridgend.volunteering-wales.net/vk/volunteers/index.htm
Er mwyn cael y cyngor meddygol diweddaraf o ran coronafeirws ewch i wefannau Iechyd Cyhoeddus Cymru, Llywodraeth Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg .