Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Y Cyngor i fuddsoddi £9.9m ychwanegol mewn gwasanaethau lleol

Mae disgwyl i raglen fuddsoddi cyfalaf Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr dderbyn hwb o £9.9m i gefnogi gwaith gwasanaethau lleol.

Mae disgwyl i’r rhaglen, a oedd eisoes wedi’i chymeradwyo gan y Cyngor ym mis Chwefror 2022 ac yn cynnwys £2m ychwanegol ar gyfer seilwaith priffyrdd, gael ei hymestyn i gynnwys ystod eang o fuddsoddiadau newydd ar ôl i’r Cabinet gytuno ar gynigion i fuddsoddi grantiau ychwanegol gan Lywodraeth Cymru, cyllid Adran 106 allanol a thanwariant blaenorol i’r gyllideb.

Bydd mwy na £1.5m yn mynd tuag at ail-wynebu ac adnewyddu ffyrdd a phalmentydd lleol dros y flwyddyn i ddod, a bydd £500,000 ychwanegol yn cael ei ddefnyddio i ddod â rhagor o ffyrdd sydd heb eu mabwysiadu i safon a fydd yn eu galluogi nhw i gael eu hychwanegu i rwydwaith priffyrdd y cyngor y mae modd eu cynnal.

Mae’r prosiect trawsnewid Teleofal, sy’n cynnig ystod eang o offer a dyfeisiau gyda’r nod o gefnogi pobl hŷn a phobl agored i niwed sy’n byw gartref, yn derbyn £1.4m i gefnogi ei ddiweddariad o dechnoleg analog i dechnoleg ddigidol. Hefyd, bydd £500,000 yn cael ei gyfrannu at y rhaglen trosglwyddo asedau cymunedol parhaus sy’n cefnogi sefydliadau lleol i reoli a buddsoddi i gyfleusterau cyhoeddus.

Bydd mwy na £4.35m yn cael ei fuddsoddi i dair ysgol leol gyda datblygiad bloc o £1.8m o chwe dosbarth newydd sbon yn Ysgol Gyfun Bryntirion, estyniad newydd â phedwar dosbarth newydd sbon gwerth £1.65m yn Ysgol Gynradd Coety, ac estyniad dau ddosbarth newydd sbon gwerth £900,000 yn Ysgol Gynradd Pencoed.

Bydd y cynllun gwerth £2.1m i adnewyddu Cosy Corner ym Mhorthcawl yn derbyn £684,000 yn ychwanegol i gyflawni gwelliannau eraill i’r ardal gyhoeddus, tirweddu a chyfleusterau chwarae i blant. Yn y cyfamser, bydd ymdrechion parhaus i ddarparu pontffordd newydd sbon ym Mhenprysg Road ym Mhencoed yn rhan o Gynllun Uwch Metro Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn cael hwb o £500,000 o gyllid.

Yn olaf, bydd y rhaglen adnewyddu mannau chwarae i blant y cyngor, sy’n darparu cyfleusterau chwarae modern newydd ar dros gant o safleoedd ledled y fwrdeistref sirol, yn derbyn £500,000 yn ychwanegol.  

Mae’r buddsoddiad newydd hwn yn cynnig gwerth o dros £9.9m, ac mae’n cynnwys gwelliannau mawr a chyfleusterau ychwanegol mewn sawl ysgol leol yn ogystal â galluogi cefnogaeth ychwanegol ar gyfer y rhwydwaith priffyrdd lleol, adnewyddiadau i fannau chwarae, dod â ffyrdd sydd heb eu mabwysiadu i safon y gellid eu cynnal a chadw a rhagor.

Bydd hefyd yn cefnogi ein preswylwyr mwyaf agored i niwed yn eu cartrefi eu hunain i sicrhau eu bod nhw’n parhau i fod yn ddiogel, a chael eu hamddiffyn gan system sydd wedi’i theilwra i fodloni eu hanghenion.

Gyda bron 50 y cant o gyfanswm pris y cynlluniau hyn wedi’i sicrhau o gyllid allanol, bydd y rhaglen fuddsoddi estynedig yn arwain at ddefnydd mwy effeithlon o adnoddau’r cyngor, costau cynnal a chadw is, gwasanaethau gwell i breswylwyr lleol a llawer mwy.

Dywedodd y Cynghorydd Hywel Williams, Aelod Cabinet dros Adnoddau

Chwilio A i Y