Y clwb a’r cyngor yn gwrthod beirniadaeth ynglŷn â’r broses CAT
Poster information
Posted on: Dydd Mercher 10 Tachwedd 2021
Mae clwb pêl-droed Cwm Garw, sef Carn Rovers, a Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi gwrthod sylwadau a wnaed ar y cyfryngau cymdeithasol yn beirniadu proses sydd ar waith ar hyn o bryd i drosglwyddo asedau cymunedol (CAT).
Ers ysgwyddo’r gwaith beunyddiol o reoli Pafiliwn Cwm Garw a’r meysydd chwarae ym mis Medi 2021, mae Carn Rovers wedi datblygu cynlluniau ar gyfer cyflwyno nifer o welliannau.
O dan gronfa Trosglwyddo Asedau Cymunedol (CAT) y cyngor, mae £10,883 wedi’i ddyrannu eisoes i’r clwb ar gyfer ailwampio’r pafiliwn, yn ogystal â £10,000 i helpu i dalu am offer i gynnal a chadw’r cae. Ymhellach, cafodd y clwb £1,000 gan Gronfa Cymorth Chwaraeon 2020-21 y cyngor er mwyn cyfrannu at gostau dillad pêl-droed ac offer hyfforddi newydd.
Yn awr, mae’r cyngor yn cefnogi cynlluniau’r clwb i gyflwyno gwelliannau sy’n werth £25,000 i’r cae a chael gafael ar arian ychwanegol trwy ffynonellau eraill, fel Chwaraeon Cymru.
Ymhellach, mae’r cyngor yn trafod sut y gall y clwb wneud cais i’r gronfa cymorth chwaraeon eleni er mwyn cael grantiau o hyd at £2,000 i ddatblygu’r clwb a chyllid o hyd at £3,500 i ddatblygu asedau.
O gofio’r gwaith rydym wedi’i wneud eisoes mewn partneriaeth agos â Carn Rovers dros gyfnod maith, siomedig ac annisgwyl oedd gweld bod yr ymdrechion hynny wedi cael eu beirniadu, yn enwedig gan eu bod wedi galluogi’r clwb i wella a datblygu ei gyfleusterau. Pan gawsom air gyda chadeirydd y clwb i gael eglurhad ynglŷn â’r sefyllfa, cadarnhaodd nad yw’r farn a fynegwyd ar y cyfryngau cymdeithasol yn adlewyrchu barn y clwb ei hun.
Yn aml, mae’r rhai sy’n beirniadu’r cynllun yn barod iawn i ddweud bod y cyngor wedi wynebu sefyllfa lle byddai’n rhaid cynyddu’r ffioedd yn fawr er mwyn talu’r costau gwirioneddol, ond pur anaml y maen nhw’n egluro bod hyn wedi deillio o’r ffaith ein bod yn rhoi cymorthdaliadau o hyd at 80% i gyfleusterau chwaraeon lleol, ac na allen ni fforddio gwneud hynny mwyach yn dilyn toriadau enfawr yn y cyllid a dderbyniwn ac a ddefnyddiwn i ddarparu gwasanaethau lleol.
Nod y broses trosglwyddo asedau cymunedol o’r cychwyn oedd dod o hyd i ffyrdd newydd er mwyn sicrhau y byddai modd cadw cyfleusterau o’r fath ar agor at ddefnydd y cyhoedd – ac mae wedi bod yn llwyddiant ysgubol. O ganlyniad i’r broses mae llu o gyfleusterau wedi ffynnu, ac rydym yn parhau i weithio’n agos gyda chlybiau lleol a sefydliadau eraill, yn cynnwys Carn Rovers, fel y bydd modd elwa i’r eithaf ar y cyllid y gallan nhw wneud cais amdano a chael budd ohono.
Yn ôl Hywel Williams, y Dirprwy Arweinydd
Ar ôl i’r broses Trosglwyddo Asedau Cymunedol gael ei chwblhau ym mis Medi 2021, dyma a ddywedodd Carl Jones, cyfarwyddwr Carn Rovers: “Fel clwb, hoffem ddiolch i’r cyngor am roi’r cyfle inni ysgwyddo cyfrifoldeb dros y cae a’r pafiliwn.
“Mae wedi rhoi cyfle inni dyfu fel clwb, a bellach mae gennym ddau dîm hŷn yn chwarae yng Nghynghrair Pen-y-bont ar Ogwr a phedwar tîm bach yn chwarae yng Nghynghrair Pen-y-bont ar Ogwr a Phort Talbot.
“Mae hi wedi bod yn broses faith, ond rydym wrth ein bodd gyda’r canlyniad, ac edrychwn ymlaen at ddatblygu’r clwb yn y dyfodol.”