Y cam nesaf tuag at adfywio Salt Lake
Poster information
Posted on: Dydd Iau 20 Mehefin 2019
Mae cam pwysig wedi’i gymryd tuag at adfywio safle Salt Lake ym Mhorthcawl.
Yr wythnos hon, mae Aelodau Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cytuno i waredu'n swyddogol y tir y mae'n berchen arno ar y safle sy'n cael ei ystyried yn ‘fan agored cyhoeddus’.
Mae'n un o nifer o brosesau cyfreithiol y mae'n rhaid eu dilyn er mwyn dod â'r safle ymlaen i'w ddatblygu ac i hysbysebu gwerthiant y tir ar y farchnad agored.
Er y gall y cyhoedd gael mynediad i'r safle, nid yw wedi’i gynllunio fel man agored cyhoeddus ffurfiol, felly rydym yn hapus i gytuno i'w waredu er mwyn i'r cynllun adfywio cyffrous hwn fynd yn ei flaen. Mae rhan fawr o'r safle wedi cael ei ddefnyddio fel maes parcio ag arwyneb bras ers blynyddoedd lawer ac nid yw'n cynnig unrhyw gyfleusterau hamdden.
Bydd llawer o waith paratoi yn ymwneud â phriffyrdd, cynllunio, seilwaith a chyflwr y tir yn cael ei wneud dros y misoedd nesaf cyn marchnata pob rhan o'r safle i’w werthu. Mae cwblhau pob proses yn dod â ni’n nes at drawsnewid y tir hwn yn rhywbeth sydd o fudd i drigolion ac ymwelwyr.
Mae geiriad cyfreithiol y broses ddiweddaraf hon yn cyfeirio at 'gael gwared' o’r safle, ond hoffwn roi sicrwydd i bawb mai dim ond mesur galluogi yw hwn ac nad yw'n rhag-benderfynu sut rydym yn symud ymlaen. Penderfynir os bydd y cyngor yn brydleswr, yn landlord, yn werthwr neu'n bartner busnes ar gyfer unrhyw ran o'r safle maes o law fel sy'n briodol ar gyfer pob agwedd o’r datblygiad cymysg hwn.
Cynghorydd Charles Smith, yr Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio
Y llynedd, cyhoeddodd y cyngor y ‘jig-so adfywio' a fydd yn cael ei roi at ei gilydd dros sawl cam i gyflwyno siop fwyd newydd, atyniadau hamdden, tai a Phromenâd Dwyreiniol gwell.
Er bod yr hen brif gynllun adfywio yn canolbwyntio ar ddatblygu archfarchnad fawr, bydd y cynlluniau newydd yn cynnwys siop fwyd lai ym mhen gogleddol safle Salt Lake (tuag at ganolfan gymunedol Awel y Môr).
Ychwanegodd y Cynghorydd Smith: “Yn y byr dymor, byddwn yn parhau i farchnata rhan o dir Salt Lake ar gyfer siop fwyd. Bydd y prif broses gynllunio hefyd ar waith ar gyfer gweddill y safle a bydd nifer o gamau ymgysylltu â'r cyhoedd a’r rhai sydd â diddordeb cyn bwrw ymlaen â'r cynigion hyn”.
”Fel effaith domino, bydd y derbyniadau cyfalaf o werthiant y tir ar gyfer siop fwyd yn galluogi'r cyngor i symud ymlaen â'r camau nesaf, gan ddechrau gyda’r gwaith mawr ar faes parcio Hillsboro Place.
Yn ogystal â’r gwaith arwyneb, bydd cynllun y maes parcio yn cael ei wneud yn fwy effeithlon a hygyrch a bydd y posibilrwydd o ddatblygu gwesty ar ben deheuol y maes parcio hefyd yn cael ei archwilio.
Y darn nesaf yn y jig-so fydd marchnata’r tir yn union gerllaw'r siop fwyd newydd (ym mhen gogledd ddwyreiniol y safle) ar gyfer tai.
Yna rhaid cynnal cyfres o welliannau amddiffyn yr arfordir i liniaru'r perygl o lifogydd i weddill safle Salt Lake. Bydd hyn yn cynnwys gwaith ar Forglawdd y Gorllewin a'r Promenâd Dwyreiniol sy’n edrych dros Fae Sandy.
Unwaith bydd y gwaith o amddiffyn yr arfordir wedi'i gwblhau, bydd dau gam pellach o ddatblygu tai yng nghanol safle Salt Lake, gyda rhywfaint o'r tir yn cael ei ddefnyddio fel maes parcio dros dro yn y byr dymor.
Gobeithir y bydd y chwarter sy'n weddill o safle Salt Lake ger y marina yn cynnwys atyniad hamdden newydd cyffrous.
“Mae'r cynllun adfywio hwn yn gyfle unwaith mewn oes a fydd yn diogelu dyfodol Porthcawl fel tref glan môr o bwys,” dywedodd y Cynghorydd Smith. “Bydd yn creu swyddi, cartrefi ac yn buddsoddi yn yr economi leol am flynyddoedd i ddod.”
“Rwy'n aml yn meddwl bod prosiectau fel hyn fel jig-so enfawr sy'n ddibynnol ar roi rhai darnau yn eu lle cyn i bopeth arall ddod at ei gilydd. Siop fwyd newydd fydd y cam cyntaf, ac ar ôl hynny bydd yn rhyddhau'r arian sydd ei angen i wneud popeth arall yn bosibl.”