Y Cabinet yn penderfynu cadw’r gwasanaeth rheoli pla am ddim
Poster information
Posted on: Dydd Mercher 19 Mai 2021
Mae Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cytuno i gadw gwasanaeth rheoli pla am ddim i breswylwyr.
Ar hyn o bryd, mae’r awdurdod lleol yn cynnig gwasanaeth domestig am ddim ar gyfer rheoli llygod mawr, llygod, pryfaid gwelyau a chwilod du, gan godi tâl i drin chwain a gwenyn meirch yn unig. Mae gan Rentokil gontract i ddarparu’r gwasanaeth tan 31 Hydref 2021.
Mewn cyfarfod a gynhaliwyd ddydd Mawrth 18 Mai, cyflwynwyd adroddiad i’r Cabinet ar ddyfodol y gwasanaeth, gan gynnwys sawl opsiwn. Roedd yr opsiynau’n cynnwys dileu’r gwasanaeth, ail-dendro’r contract a chyflwyno ffi i breswylwyr, ail-dendro’r contract a chadw gwasanaeth am ddim, neu wneud y gwasanaeth yn un mewnol.
Cafodd y Cabinet wybod bod y rhan fwyaf o awdurdodau lleol Cymru un ai’n cynnig gwasanaeth y mae angen talu amdano, neu nid ydynt yn darparu gwasanaeth o gwbl.
Rydym yn credu y dylai preswylwyr gael gwasanaeth rheoli pla am ddim - mae’n wasanaeth poblogaidd iawn ac mae’r galw wedi cynyddu yn ystod y pandemig
Nid yw peidio â chynnig gwasanaeth i breswylwyr yn opsiwn. Os yw llygoden fawr yn dod i mewn i gartref unigolyn, nid yw’n golygu mai problem yr unigolyn yw hynny. Os byddwn yn dechrau codi tâl, gallai wneud pobl yn llai parod i adrodd am y broblem.
Cynghorydd Dhanisha Patel, Aelod Cabinet dros Les a Chenedlaethau’r Dyfodol
Cytunodd y Cabinet i fynd allan i dendr i weld a oes modd i’r farchnad gynnig gwasanaeth rheoli pla gwell.
Mae’r Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir yn parhau i ymateb i faterion rheoli pla lle gall gweithgareddau unigolion effeithio ar iechyd cyhoeddus pobl eraill. Ni effeithir ar y gwasanaeth hwn, gan ei fod ar wahân i’r contract rheoli pla domestig a ddarperir gan y Cyngor.