Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Y Cabinet yn mynd i drafod adroddiad ar safle ‘anaddas’ i ysgol newydd

Yr wythnos nesaf, bydd Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-Bont ar Ogwr yn cyfarfod i glywed adroddiad yn ymwneud â chanlyniad astudiaeth ddichonoldeb a gynhaliwyd ar safle posibl ar gyfer ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg newydd.

Trefnwyd yr astudiaeth ddichonoldeb ar ôl i dir ym Mryn Bracla gael ei bennu fel lleoliad posibl ar gyfer sefydlu ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg newydd i gymryd lle Ysgol Bro Ogwr, sydd hefyd wedi’i lleoli ym Mracla.

Mae’r adroddiad a fydd yn mynd gerbron y Cabinet yn datgelu bod yr astudiaeth ddichonoldeb wedi dod i’r casgliad fod safle Bryn Bracla yn anaddas ar gyfer datblygiad o’r fath, ac na ddylai’r cyngor ei ystyried mwyach fel opsiwn yn ei gynlluniau parhaus ar gyfer moderneiddio ysgolion.

Darganfu’r astudiaeth y byddai costau datblygu ysgol newydd yn uwch o lawer nag y tybiwyd yn wreiddiol. Mae’r rhesymau am hyn yn cynnwys gwaith cloddio ‘torri a llenwi’ mawr yn ymwneud â thopograffi’r safle.

Ymhellach, mae’r astudiaeth yn tynnu sylw at broblemau’n ymwneud â mynediad a chyfluniad y gyffordd arfaethedig oddi ar Ffordd Bracla, yn ogystal â’r tebygolrwydd y byddai’r cyfnod adeiladu’n hwy nag a bennwyd yn wreiddiol gan beri anghyfleustra hirdymor i’r gymuned leol, ynghyd â’r lleihad mawr yn y mannau agored a fyddai ar gael i’r cyhoedd wedyn.

Daw’r adroddiad i ben trwy ofyn i’r Cabinet ddiystyru safle Bryn Bracla a chytuno i archwilio opsiynau eraill yn ei le.

  • Bydd y Cabinet yn cyfarfod i drafod yr adroddiad a chanlyniadau’r astudiaeth ddichonoldeb am 2.30pm ddydd Mawrth 9 Chwefror.

Chwilio A i Y