Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Y Cabinet yn cytuno i archwilio cynlluniau ar gyfer gwella ansawdd aer

Mae cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cytuno i archwilio cynigion ar gyfer gwella ansawdd aer yn Stryd y Parc, Pen-y-bont ar Ogwr.

Ym mis Ionawr 2019, gweithredodd yr awdurdod lleol Orchymyn Ardal Rheoli Ansawdd Aer (AQMA) cyntaf y sir yn swyddogol yn Stryd y Parc ar ôl i brofion ddangos bod lefelau nitrogen deuocsid yn uwch na'r amcanion ansawdd aer cenedlaethol.

Yn dilyn nifer o sesiynau trafod â'r cyhoedd a gwaith y grŵp llywio, mae tri mesur lliniaru wedi'u datblygu i helpu i fynd i'r afael â materion ansawdd aer, sydd wedi'u priodoli i  lifau traffig anghyson ar y ffordd a  cherbydau’n ciwio.

Pwrpas y mesurau yw atalmynediad i Ffordd St. Leonard’s, cyflwyno cyffordd pedwar cam wrth droad Heol-y-Nant (tri i draffig, un i gerddwyr), a gwella cyffordd y ffordd rhwng Stryd y Parc, Stryd yr Angel a Ffordd Tondu.

Bellach, bydd ymgynghoriad cyhoeddus ynghylch y cynigion yn cael ei drefnu, a bydd gwaith modelu trafnidiaeth ac ansawdd aer pellach yn cael ei gynnal i ddangos buddion y gwaith.

Yn rhan o hyn, bydd system monitro ansawdd aer awtomatig yn cael ei gosod ar dir Tŷ Cwrdd y Crynwyr yn Stryd y Parc i ddarparu data amser real y gellir ei ddefnyddio i lywio mesurau rheoli traffig am gyfnodau penodol.

Fe wnaethon ni addo gweithio ochr yn ochr ag ystod eang o randdeiliaid i ddatblygu datrysiad i’r mater hwn, gan gynnwys preswylwyr ac aelodau’r cyhoedd .

Mae’r cynigion yn adlewyrchu gwaith caled ac ymrwymiad y grŵp llywio, yn ogystal ag adborth y cyhoedd. Bydd gwaith pellach nawr yn cael ei wneud i sefydlu eu buddion posibl, a byddwn yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus newydd unwaith y byddwn yn gwybod beth yw'r canlyniadau.

Dywedodd y Cynghorydd Dhanisha Patel, Aelod y Cabinet dros Lesiant a Chenedlaethau'r Dyfodol

Chwilio A i Y