Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Y cabinet yn cytuno ar gynlluniau ysgol newydd ar gyfer cais Band B y Rhaglen Ysgolion a Cholegau ar gyfer yr 21ain Ganrif

Mae cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cymeradwyo cynlluniau i gyflwyno cais rhaglen Band B diwygiedig dan ail don y Rhaglen Ysgolion a Cholegau ar gyfer yr 21ain Ganrif gan Lywodraeth Cymru.

Dan y cynlluniau, byddai Ysgol Gynradd Mynydd Cynffig ym Mynydd Cynffig yn cael ei disodli gan adeilad newydd, ar ei safle presennol.

Mae'r cynlluniau datblygu ar gyfer ysgol newydd yn ddarostyngedig i arfarniad o’r opsiynau ac astudiaeth ddichonoldeb, a fydd yn llywio proses achos busnes Llywodraeth Cymru.

Mae cynnwys yr ysgol yng ngheisiadau Band B yn lle ysgol gynradd dwy ffrwd, cyfrwng Cymraeg a Saesneg, ym Mharc Afon Ewenni, sef safle datblygu o 20 erw yn Llangrallo Isaf, Pen-y-bont ar Ogwr.

Byddai'r adeilad newydd yn cael ei ddylunio fel ysgol â dau ddosbarth mynediad a dosbarth meithrin.

Roedd ysgol newydd i gymryd lle Ysgol Gynradd Mynydd Cynffig wedi'i neilltuo fel cynllun â blaenoriaeth ar gyfer Pen-y-bont ar Ogwr o dan Fand C y Rhaglen Ysgolion a Cholegau ar gyfer yr 21ain Ganrif. Fodd bynnag, yn sgil rhesymau amrywiol, rydym wedi'i ddwyn ymlaen.

Mae oedi wedi bod yng nghynnydd y gwaith ar safle datblygu Parc Afon Ewenni, sy'n allweddol i'r ysgol newydd, ac mae gan yr adeilad sydd ar safle babanod Ysgol Gynradd Mynydd Cynffig broblemau sylweddol sy'n golygu na ellir ei ddefnyddio bellach oherwydd rhesymau iechyd a diogelwch.

Er ein bod wedi gorfod gwneud y newidiadau hyn i'r cyflwyniadau Band B, nid oes unrhyw newid i'n hymrwymiad i ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg. Rydym yn llwyr ymrwymedig i ddarpariaeth lleoedd cyfrwng Cymraeg, ac rydym yn archwilio opsiynau amrywiol i gynyddu lleoedd addysg ar gyfer disgyblion yn ardaloedd allweddol y fwrdeistref sirol. Rydym hefyd yn ystyried opsiynau amgen ar gyfer cyflenwi'r ddarpariaeth yn ardal y de-ddwyrain.

Dywedodd arweinydd y cyngor, Huw David

Dros yr ychydig fisoedd diwethaf, cyn y cyfyngiadau symud, roedd disgyblion dosbarth babanod Ysgol Gynradd Mynydd Cynffig yn cael eu cludo bob dydd i Ysgol Gynradd Corneli, Ysgol y Ferch o’r Sger a'r Ganolfan Integredig i Blant er mwyn cael eu haddysg.

Yn ddiweddar, gwnaeth Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr neilltuo £1.2 miliwn ar gyfer darparu ystafelloedd dosbarth modiwlar newydd a fyddai'n galluogi disgyblion yn nosbarth babanod yr ysgol i gael eu haddysgu ar y safle nes y caiff yr ysgol newydd ei hadeiladu.

Dywedodd Charles Smith, Aelod Cabinet y Cyngor dros Addysg ac Adfywio: “Un o'r tasgau sydd o'n blaen yw archwilio opsiynau ar gyfer lleoliad yr ysgol newydd, a'r logisteg o'i hadeiladu er mwyn lleihau'r tarfiad ar weithgareddau bob dydd yn yr adeiladau presennol.”

Os caiff safle Parc Afon Ewenni ei gynnwys yn y Cynllun Datblygu Lleol, gellid darparu ysgol ar y safle dan Fand C y rhaglen.

Pleidleisiodd aelodau ar y cynlluniau yn ystod cyfarfod cabinet ddydd Mawrth 30 Mehefin.

Chwilio A i Y