Y Cabinet yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am y cynlluniau i foderneiddio ysgolion
Poster information
Posted on: Dydd Mercher 23 Mehefin 2021
Mae Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cael diweddariad ar gynigion i gyflwyno ysgolion newydd yn ardal Corneli.
O dan y cynlluniau, byddai ysgol cyfrwng Saesneg newydd o'r radd flaenaf yn cael ei hadeiladu i ddisodli ysgolion cynradd Corneli ac Afon y Felin sy'n dirywio. Byddai'r ysgol newydd yn cynnwys system mynediad dau ddosbarth, meithrinfa gyda lle i 60 o blant a chanolfan adnoddau gyda lle i 15 ar gyfer disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol.
Byddai’r ysgol cyfrwng Cymraeg, Ysgol y Ferch O’r Sgêr, hefyd yn cael ei thrawsnewid a’i hehangu.
Cynhaliwyd ymgynghoriad â disgyblion, staff a llywodraethwyr yn gynharach yn y flwyddyn, a chwblhawyd ymgynghoriad statudol hefyd.
Dyma gyfle i ddarparu’r cyfleusterau addysgol modern gorau posibl i blant sy’n byw yng ngorllewin y fwrdeistref sirol, ac mae’n un o’r buddsoddiadau mwyaf mewn ysgolion cynradd yn y fwrdeistref sirol.
Mae'r tair ysgol bresennol sy'n ymwneud â'r cynnig mewn cyflwr gwael, ac mae ganddynt ôl-groniad sylweddol iawn o ofynion cynnal a chadw - ni chawsant eu cynllunio i safonau Ysgolion yr 21ain Ganrif ac nid ydynt yn addas ar gyfer eu haddasu.
Mae ein cynigion yn cael eu hysgogi gan yr angen i ddarparu nifer addas a digonol o leoedd i ddisgyblion. Os rhoddir cymeradwyaeth derfynol i ni, byddwn yn gweithio mor agos ag y gallwn gyda phob ysgol - gyda'r cyrff llywodraethu, staff, rhieni a disgyblion wrth i'r cynlluniau fynd rhagddynt, gan helpu i sicrhau bod 'ethos' presennol yr ysgol fach yn cael ei gynnal a bod y trawsnewidiad mor llyfn â phosib.
Dywedodd yr aelod cabinet dros Addysg ac Adfywio, y Cynghorydd Charles Smith
O dan y cynigion, byddai’r ysgol cyfrwng Saesneg newydd yn cael ei sefydlu ym Mhlas Morlais drwy ymrwymo i gytundeb â pherchennog presennol y safle, Cymdeithas Tai Cymoedd i'r Arfordir, a chyfnewid y lleoliad ar gyfer tir a adawyd yn Afon y Felin.
Ni fydd y cyfnewid tir arfaethedig yn cynhyrchu unrhyw incwm i'r awdurdod lleol, mae’n fodd i ddiogelu'r safle sy'n ofynnol ar gyfer datblygu’r ysgol yn unig.
Byddai Ysgol y Ferch o'r Sgêr yn cael adeiladau cwbl newydd ac yn ehangu i’r safle presennol lle mae Ysgol Gynradd Corneli ar hyn o bryd i ddod yn ysgol gyda dau ddosbarth mynediad gyda meithrinfa cyfrwng Cymraeg gyda lle i 60 o blant.
Byddai'r Ganolfan Plant Integredig, sydd wedi'i lleoli ar safle Ysgol Gynradd Corneli ar hyn o bryd, yn aros.
Bydd y cynlluniau nawr yn mynd gerbron Llywodraeth Cymru i gadarnhau cyllid, ac yna’n dychwelyd i'r Cabinet i'w cymeradwyo'n derfynol.