Y cabinet i drafod cynlluniau ar gyfer ail gam cynllun grant sy'n anelu at ailddefnyddio adeiladau gwag
Poster information
Posted on: Dydd Gwener 26 Mehefin 2020
Yr wythnos nesaf, bydd cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn trafod ail gam cynllun grant sy'n anelu at helpu perchenogion adeiladau a phrynwyr tro cyntaf i ailddefnyddio adeiladau gwag.
Yn ystod cyfarfod cabinet ddydd Mawrth 30 Mehefin, gofynnir i aelodau'r cabinet gymeradwyo symud i ail gam Cynllun Grant Cartrefi Gwag Tasglu'r Cymoedd, y disgwylir iddo bara hyd at fis Mawrth 2021.
Mae Llywodraeth Cymru wedi dyrannu cyllid o £4.5 miliwn ar gyfer yr ail gam i Gyngor Rhondda Cynon Taf, sy'n cyflenwi ac yn rheoli'r cynllun ar gyfer yr ardal.
Gofynnir i aelodau'r cabinet gytuno ar gyfraniad cyllid cyfatebol o 35% tuag at bob grant yn ardal Tasglu’r Cymoedd Pen-y-bont ar Ogwr, yn seiliedig ar nifer y grantiau adeiladau gwag y mae'r awdurdod lleol yn dymuno eu cynnal. Mae'r dyfarniad grant ar gyfer hyd at uchafswm o £25,000, sy'n cynnwys £5,000 ar gyfer gwelliannau effeithlonrwydd ynni.
Digwyddodd gam cyntaf y grant cartrefi gwag, a gynhaliwyd fel peilot, rhwng mis Hydref 2019 a mis Mawrth 2020. Ym mwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr, roedd wyth cais llwyddiannus. Ni wnaeth Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr unrhyw gyfraniad ariannol ar gyfer cam hwn y cynllun.
Er mwyn bod yn gymwys ar gyfer y cynllun, mae'n rhaid i ymgeiswyr fodloni meini prawf penodol, fel bod yn berchenogion ar, neu'n ddarpar berchenogion ar, y cartref gwag maent yn bwriadu byw ynddo fel eu prif drigfan am o leiaf pum mlynedd o ddyddiad ardystio’r gwaith a gefnogir gan y grant. Mae'n rhaid hefyd i’r adeilad fod wedi bod yn wag ers chwe mis cyn iddo gael ei brynu, ac ar adeg cwblhau cais ar gyfer y grant.
Fel rhan o'r ail gam, disgwylir y caiff cymhwysedd ar gyfer y cynllun ei ymestyn i landlordiaid cymdeithasol cofrestredig er mwyn galluogi'r grant i gael ei ddefnyddio ar gyfer ailddefnyddio adeiladau gwag ar gyfer tai cymdeithasol.
Bydd yn ofynnol i ymgeiswyr wneud cyfraniad gorfodol o 15 y cant o gyfanswm cost y gwaith cymwys. Fodd bynnag, caiff y cyfraniad gorfodol ei ddiddymu ar gyfer ymgeiswyr sy'n wynebu caledi ariannol.
Fel rhan o'r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig a gymeradwywyd gan y cyngor ym mis Chwefror 2020, cafodd cyllid cyfatebol o £105,000 ei gynnwys yn y rhaglen gyfalaf tuag at yr ail gam, sy'n golygu y gellir cymeradwyo grantiau hyd at gyfanswm o £300,000 ar gyfer perchenogion cartrefi o fewn ardal Pen-y-bont ar Ogwr sy'n dod o dan gyfrifoldeb Tasglu'r Cymoedd.
Caiff yr adroddiad ei drafod gan aelodau'r cabinet ar 30 Mehefin.