Y cabinet i drafod cynigion rheoli ansawdd aer
Poster information
Posted on: Dydd Mawrth 08 Medi 2020
Bydd cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cyfarfod ddydd Mawrth 15 Medi i ystyried mesurau lliniaru ar gyfer delio â phryderon ynghylch ansawdd aer yn Stryd y Parc, Pen-y-bont ar Ogwr.
Ym mis Ionawr 2019, gweithredodd yr awdurdod lleol y Gorchymyn Ardal Rheoli Ansawdd Aer cyntaf yn y sir yn swyddogol yn Stryd y Parc ar ôl i brofion ddangos bod lefelau nitrogen deuocsid yn uwch na'r amcanion ansawdd aer cenedlaethol.
Nawr, yn dilyn nifer o sesiynau ymgysylltu â'r cyhoedd a gwaith grŵp llywio, mae tri mesur lliniaru wedi cael eu cynnig i helpu i fynd i’r afael ag ansawdd yr aer, sydd wedi cael ei briodoli i lifau traffig anghyson ar y ffordd a cherbydau'n ciwio.
Bydd yr opsiynau a ffefrir, sy'n ceisio rheoli a gwella llifau traffig trwy Ardal Rheoli Ansawdd Aer Stryd y Parc, yn awgrymu:
- Atal mynediad i St. Leonard’s Road.
- Cyflwyno cyffordd pedwar cam ar droad Heol-y-Nant (tri i draffig, un i gerddwyr).
- Gwella’r gyffordd rhwng Stryd y Parc, Stryd yr Angel a Heol Tondu.
Cyn bod unrhyw fesurau lliniaru yn cael eu cyflwyno, mae'r adroddiad yn awgrymu gwneud gwaith modelu trafnidiaeth ac ansawdd aer i ddangos buddion posibl ar draws bob un o'r tri opsiwn. Gobeithir y gall hyn ddigwydd ym mis Hydref 2020.
Fel rhan o'i weithgareddau monitro ansawdd aer parhaus, mae'r cyngor yn bwriadu sefydlu system monitro ansawdd aer awtomataidd ar dir Tŷ Cwrdd y Crynwyr yn Stryd y Parc. Bydd hyn yn darparu data amser real y gellir ei ddefnyddio i lywio mesurau rheoli traffig am gyfnodau penodol, a fydd hefyd ar gael ar-lein i'r cyhoedd.
Yn sgil pandemig y coronafeirws, mae Llywodraeth Cymru wedi caniatáu estyniad chwe mis i'r cynllun gweithredu drafft, gyda'r dyddiad cau ar gyfer ei gyflwyno wedi'i symud i ddiwedd y flwyddyn.
Unwaith y bydd y cynllun gweithredu drafft wedi'i gymeradwyo, trefnir ymgynghoriad â’r cyhoedd.
Bydd y cabinet yn cyfarfod i drafod yr adroddiad ddydd Mawrth 15 Medi.