Y Bridgend Bolts yn sgorio £1,500 o gynllun y Gist Gymunedol
Poster information
Posted on: Dydd Iau 15 Mawrth 2018
Mae Clwb Pêl-rwyd y Bridgend Bolts wedi sicrhau grant o £1,500 o gynllun y Gist Gymunedol fel y gall aelodau o’r tîm iau symud ymlaen i’r tîm hŷn.
Sefydlwyd y tîm iau ddwy flynedd yn ôl, ac mae cyllid y Gist Gymunedol yn golygu y gall y clwb fynd ati i hyfforddi hyfforddwyr, dyfarnwyr a darparwyr cymorth cyntaf, a hefyd dalu am logi cyfarpar ac adnoddau i gynnal tîm cyntaf ac ail dîm i oedolion.
Menter gan Chwaraeon Cymru yw’r Gist Gymunedol ac mae’n cael ei rhedeg yn lleol gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, gyda phanel o wirfoddolwyr yn cytuno ar geisiadau am gyllid.
Gall y cynllun gynnig grantiau o hyd at £1,500 ac mae wedi helpu i fuddsoddi mwy na £1 miliwn mewn chwaraeon ar lawr gwlad ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn ystod y 17 mlynedd diwethaf.
Mae cwymp aruthrol yn nifer y merched sy’n cymryd rhan ar ôl iddynt orffen chwarae pêl-rwyd sy’n cael ei raddio yn ôl oedran. Felly roedd y Bridgend Bolts yn awyddus iawn i gynnig cyfleoedd i aelodau presennol barhau i fod yn egnïol yn gorfforol a chymryd rhan mewn camp y maent yn ei mwynhau. Mae’r Bridgend Bolts yn un o lawer o glybiau a mudiadau chwaraeon sydd wedi elwa ar gyllid y Gist Gymunedol ac rydym yn gobeithio y gwelwn ni lawer rhagor o lwyddiannau.
Mae’n dangos bod y cynllun grant yn gallu helpu mewn cymaint o ffyrdd drwy sicrhau bod clybiau a mudiadau yn parhau i fod yn gynaliadwy. Mae clybiau fel y rhain yn annog pobl i fod yn egnïol ond hefyd yn caniatáu i bobl gymdeithasu a gwneud ffrindiau newydd.
Hoffwn annog unrhyw grŵp cymunedol, clwb chwaraeon neu glwb ieuenctid cymwys ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i wneud cais am gymorth ariannol i helpu mwy o drigolion lleol i fod yn fwy egnïol, yn fwy aml.
Cynghorydd Dhanisha Patel, Aelod Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr dros Lesiant a Chenedlaethau’r Dyfodol.
Mae sesiynau hyfforddi ar gyfer y Bridgend Bolts yn digwydd bob nos Fawrth rhwng 5 ac 8 pm (gan ddibynnu ar oedran y grŵp) yng Nghanolfan Chwaraeon Bryncethin. Mae rhagor o wybodaeth am y Bolts ar gael ar eu tudalen Facebook.
I gael rhagor o fanylion am gynllun y Gist Gymunedol, ewch i: