Y bedwaredd ganolfan codi sbwriel yn agor ym Mhen-y-bont ar Ogwr gyda chwech arall yn agor yn ddiweddarach eleni
Poster information
Posted on: Dydd Gwener 28 Chwefror 2020
Mae Canolfan Ieuenctid a Chymuned Mynyddcynffig, y Pîl a Chorneli wedi dod yn ganolfan codi sbwriel, y bedwaredd i gael ei chreu ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, a bydd chwech arall yn agor yn ddiweddarach eleni.
Mae'r canolfannau yn storio offer ar gyfer unigolion neu grwpiau lleol sydd yn awyddus i helpu i dacluso eu cymuned.
Mae'r offer yn cynnwys teclynnau codi sbwriel, cylchoedd, siacedi llachar a bagiau bin yn ogystal â chanllawiau iechyd a diogelwch.
Mae gwirfoddolwyr hefyd yn gallu cofnodi ar-lein ble yn union y cynhaliwyd digwyddiad casglu sbwriel a pha bryd, a sawl bag o wastraff a gasglwyd, gan helpu i roi trosolwg cyffredinol o'r gwaith sy’n mynd rhagddo.
Mae lansio'r ganolfan codi sbwriel yng Nghanolfan Ieuenctid Mynyddcynffig, y Pîl a Chorneli yn dilyn ymgyrch Ein Cymuned … carwch hi a'i chadw'n lân! mewn chwe ysgol gynradd ym Mynyddcynffig, y Pîl a Chefn Cribwr.
Yn ystod y prosiect 12 wythnos, dysgodd disgyblion am effeithiau sbwriel a oedd yn cael ei daflu yn eu cymunedau ac ar y traeth.
Roedd yn brosiect ar y cyd rhwng Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Cadwch Gymru'n Daclus a chynghorau cymuned lleol Corneli, Cefn Cribwr a’r Pîl, ynghyd â SeaQuest.
Mae'r canolfannau hyn yn galluogi i'r holl wirfoddolwyr sydd â diddordeb mewn casglu ysbwriel i gael cyswllt lleol a chanolfan lle gallant fenthyg yr holl offer angenrheidiol a chofnodi'r gwaith gwych y maent yn ei wneud.
Ar hyd a lled y sir mae byddin o wirfoddolwyr yn gwneud gwahaniaeth sylweddol i'w cymunedau ac yn helpu i godi ymwybyddiaeth o effeithiau sbwriel.
Dywedodd Hywel Williams, dirprwy arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Dywedodd Alison Mawby, rheolwr datblygu prosiect yng Nghanolfan Ieuenctid a Chymuned Mynyddcynffig, y Pîl a Chorneli: "Y gobaith yw, trwy fod yn ganolfan, fe fydd yn haws i drigolion ddangos cariad at eu hardal.
"Yn ogystal â grwpiau a sefydliadau lleol, mae pobl ifanc yn frwdfrydig i wella ymddangosiad eu cymuned ac fe allai fod yn arferol iddynt gymryd rhan mewn sesiwn casglu sbwriel yn ystod gwyliau'r haf."
Dywedodd Brian Jones, Cadwch Gymru'n Daclus: "P'un a ydych am dreulio ychydig oriau yn casglu sbwriel gyda'ch cydweithwyr neu'n trefnu digwyddiad glanhau’r gymuned mwy o faint, gallwch ymweld ag un o'r canolfannau casglu sbwriel i fenthyg offer.
"Bydd y data a gesglir drwy grwpiau cymunedol a gwirfoddolwyr sy'n cymryd rhan mewn digwyddiadau casglu sbwriel yn cael ei ddefnyddio i greu mapiau, gan helpu i dynnu sylw at sut mae ymdrechion unigolion a grwpiau yn cyfrannu at y darlun ehangach.
"Bydd y data yn helpu i ddangos ble mae'r grwpiau wedi bod yn brysur ac yn nodi lle nad oes gwaith ar waith, a fydd yn ein helpu i flaenoriaethu’r hyn rydym yn ei wneud."
Yn ystod y misoedd diwethaf, mae canolfannau codi sbwriel wedi agor ym Mhorthcawl, Caerau a Phencoed.