Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Wyth man gwyrdd yn derbyn gwobr fawreddog Y Faner Werdd

Mae Cadwch Gymru’n Daclus wedi datgelu enillwyr Gwobr Y Faner Werdd eleni, ac mae wyth parc a man gwyrdd ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cael cydnabyddiaeth am eu safonau uchel.

Enillodd Parc Lles Maesteg, Wilderness Lake ym Mhorthcawl, Amlosgfa Llangrallo, Parc Gwledig Bryngarw ac Ysbyty Glan-rhyd wobr lawn y Faner Werdd.

Hefyd, enillodd Gardd Farchnad Caerau, Rhandir Badgers Brook a’r Wilderness Allotment Association Wobr Gymunedol y Faner Werdd am eu hymdrechion i gynnal mannau gwyrdd o’r radd flaenaf.

Mae Gwobr y Faner Werdd yn bartneriaeth y DU gyfan sy’n cael ei darparu yng Nghymru gan Cadwch Gymru’n Daclus a’i chefnogi gan Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae cystadleuwyr yn cael eu barnu ar wyth elfen wahanol, gan gynnwys glendid, ymglymiad y gymuned a chynaliadwyedd.

Hoffwn longyfarch yr holl enillwyr sy’n medru codi baneri gwyrdd â balchder ar eu safleoedd. Mae’r ddwy wobr yn cydnabod yn haeddiannol ymdrechion a dyfalbarhad gweithwyr y cyngor a gwirfoddolwyr y gymuned sy’n rhan o gynnal mannau gwyrdd a gaiff eu cynnal a’u cadw’n dda. Mae’n rhaid canmol yn arbennig Amlosgfa Llangrallo sydd wedi ennill y wobr lawn am y nawfed flwyddyn yn olynol. Mae staff yn gweithio’n arbennig o galed i gynnal y tiroedd llonydd yna ac maen nhw’n enillwyr haeddiannol iawn o wobr Y Faner Werdd.

Dywedodd y Cynghorydd Richard Young, Aelod Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr dros Gymunedau

Mae 201 o barciau a mannau gwyrdd ledled Cymru, gan gynnwys prifysgolion, mynwentydd, coetiroedd a rhandiroedd, wedi cyrraedd y safonau uchel sydd eu hangen i ennill naill ai Gwobr y Faner Werdd neu Wobr Gymunedol y Faner Werdd. Hwn yw’r nifer mwyaf erioed.

Ychwanegodd Lucy Prisk, Cydgysylltydd y Faner Werdd yn Cadwch Gymru’n Daclus: “Rydym ni wrth ein bodd yn dathlu blwyddyn lwyddiannus arall heb ei hail i Wobrau’r Faner Werdd yng Nghymru. Mae’r 201 o faneri sydd wedi’u codi yn dyst i ymroddiad a brwdfrydedd staff a gwirfoddolwyr ledled y sir sy’n gweithio’n ddiflino i gynnal safonau Gwobr y Faner Werdd.

“Byddwn i’n annog pawb i fynd allan i’r awyr agored yn yr haf i fwynhau’r parciau a’r mannau gwyrdd anhygoel sydd gennym ni ar drothwy’r drws.”

Mae rhestr lawn o enillwyr y wobr ar gael yn https://www.keepwalestidy.cymru/Pages/Site/cy/Category/banerwerdd

Chwilio A i Y