Wyau Pasg yn cael eu dosbarthu i blant ym mwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr ar ôl cael eu rhoi gan Poundland, Coleg Pen-y-bont ar Ogwr a Bridge FM
Poster information
Posted on: Dydd Iau 16 Ebrill 2020
Cafodd 200 o wyau Pasg eu dosbarthu i blant ym mwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr ar ôl iddynt gael eu rhoi gan Poundland, Coleg Pen-y-bont ar Ogwr a Bridge FM.
Gwnaeth gweithwyr cymorth i deuluoedd a staff o'r Tîm Cyfiawnder Ieuenctid helpu i ddosbarthu'r wyau i blant sy'n agored i niwed ar Ddydd Gwener y Groglith, a chafodd nifer ohonynt eu rhoi hefyd i blant gweithwyr allweddol sy'n mynychu'r hybiau gofal plant brys.
Rydym yn gwybod bod y plant a dderbyniodd yr wyau Pasg wrth eu boddau ac rydym yn diolch i bawb a'u rhoddodd ac a aeth ati i'w dosbarthu.
Heb haelioni a chyfraniad llawer o bobl ni fyddai'r fenter hon wedi bod yn bosibl
Dywedodd arweinydd y cyngor, Huw David