Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Wildmill yn ennill y frwydr yn erbyn gwastraff

Mae trigolion ar ystâd Wildmill ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn gwneud y gorau o welliannau diweddar sy'n gwneud ailgylchu'n haws ar gyfer cartrefi.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, mewn cydweithrediad â'i bartneriaid ailgylchu Kier a’r gymdeithas dai Cymoedd i'r Arfordir, wedi gosod biniau ychwanegol ar draws yr ystâd a symud rhai o'r mannau casglu cymunedol i annog ailgylchu ac atal tipio anghyfreithlon.

Glanffornwg oedd ardal gyntaf yr ystâd i gael y diweddariadau yn gynharach eleni, wedi’i dilyn gan Dairfelin yn ddiweddarach, ac erbyn hyn mae trefniadau wedi'u hadolygu ym Maes-y-felin a Thremgarth hefyd.

Mae'r sylw wedi bod ar Faes-y-felin a Thremgarth dros yr wythnosau diweddar, lle'r ydym wedi symud rhai o'r mannau ailgylchu er mwyn eu gwneud yn fwy hygyrch ac yn haws i'w defnyddio. Mae swyddogion hefyd wedi bod yn curo ar dros 300 o ddrysau er mwyn cwrdd â thrigolion a thrafod ailgylchu gyda nhw.

Mae trigolion Wildmill eisiau ailgylchu, ac mae'r mwyafrif yn gwneud y peth iawn ar gyfer eu cymuned. Yn gyfnewid, rydym eisiau gwneud popeth y gallwn i sicrhau bod casgliadau ailgylchu a gwastraff yn rhedeg yn ddidrafferth, felly rydym yn gweithio'n agos iawn gyda Kier a Chymoedd i'r Arfordir er mwyn gwneud unrhyw welliannau angenrheidiol.

Un mater y mae nifer o drigolion yn pryderu amdano yw'r faint o dipio anghyfreithlon ar yr ystâd. Mae rhai problemau wedi bod hefyd gyda phobl o du allan i'r gymdogaeth yn gyrru i mewn i Wildmill a gollwng eu gwastraff yno. Rydym yn ymwybodol o hyn ac yn benderfynol o'i atal.

Cynghorydd Hywel Williams, Dirprwy Arweinydd y Cyngor

Chwilio A i Y