Wasanaethau Cofio 2019
Poster information
Posted on: Dydd Gwener 08 Tachwedd 2019
Bydd amrywiaeth o wasanaethau Cofio yn cael eu cynnal ledled Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr y penwythnos hwn. Maen nhw’n cynnwys y canlynol:
Ym Maesteg, cynhelir gwasanaeth yn Neuadd Bentref Llangynwyd am 10am ddydd Gwener 8 Tachwedd. Yna ddydd Sadwrn bydd gwasanaeth a chyngerdd byr Diwrnod y Cofio yn Eglwys Dewi Sant am 6pm (mynediad £5).
Ym Mhen-y-bont ar Ogwr, bydd Gorymdaith i'r Teulu a gwasanaeth yn cychwyn yn Wyndham Street am 10:20am ddydd Sadwrn. Yna ddydd Sul, cynhelir Gorymdaith Flynyddol Sul y Cofio Pen-y-bont ar Ogwr, gan ddechrau o’r Swyddfeydd Dinesig ar Stryd yr Angel am 10:20am.
Bydd Côr Meibion Pen-y-bont ar Ogwr a Band Lewis-Merthyr yn perfformio yn y digwyddiad, a bydd gwasanaeth byr dan arweiniad y Parchedig Rachel Wheeler.
Bydd Canolfan Gelf Carnegie House yn cynnal caffi cyflym coffa cyn ac ar ôl y digwyddiadau ddydd Sadwrn a dydd Sul, a bydd yr holl gyfraniadau yn cael eu rhannu’n gyfartal rhwng y Lleng Brydeinig Frenhinol, Veterans’ Zone ac SSAFA, elusen y lluoedd arfog.
Ym Mhorthcawl, bydd gwasanaeth cofio a gosod torchau yn digwydd am 10.30am yn Eglwys yr Holl Saint yn Victoria Avenue ddydd Sul. Bydd gwasanaeth ger y gofeb ryfel am 11am yn dilyn hynny.
Yn Nyffryn Ogwr, bydd gwasanaeth cofio yn cael ei gynnal ger Senotaff Melin Ifan Ddu gan ddechrau am 10.45am ddydd Sul.
Ym Mhencoed, bydd gorymdaith goffa yn ymgynnull yng Nghlwb Cymdeithasol Hendre am 9.15am ddydd Sul cyn gorymdeithio drwy'r dref ar gyfer gwasanaeth unedig yng Nghapel Salem ar Coychurch Road.
Am 10:45am, bydd yr orymdaith wedyn yn mynd at y senotaff ar gyfer seremoni gosod torchau.
Yn Llangrallo, cynhelir gwasanaeth cofio i’r teulu am 9.30am yn Eglwys Sant Crallo ddydd Sul. Yn dilyn hynny bydd gorymdaith i Neuadd Goffa Williams, lle cynhelir y distawrwydd dwy funud am 11am.
I gael rhagor o wybodaeth am ddigwyddiadau Cofio yn eich ardal chi, cysylltwch â'ch cyngor tref a chymuned lleol am fanylion.