Uned brofi coronafeirws symudol yn symud i'r Pîl
Poster information
Posted on: Dydd Iau 01 Ebrill 2021
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wedi cadarnhau bod ei gyfleuster profi symudol ar gyfer preswylwyr sydd â symptomau Covid-19 yn symud i’r Pîl o ddydd Gwener.
Bydd y cyfleuster profi galw heibio presennol yng Nghanolfan Richard Price ar Ffordd Bettws, Llangeinor (CF32 8PF) ar gael rhwng 9am a 5pm, o ddydd Iau 1 Ebrill.
Bydd profion wedyn yn symud i Bwll Nofio Halo ar Marshfield Avenue yn y Pîl (CF33 6RP) ar ddydd Gwener 2 Ebrill. Bydd ar gael fel cyfleuster gyrru trwodd rhwng 9am a 5pm ac mae’n rhaid trefnu apwyntiad.
I drefnu apwyntiad, ewch i wefan Llywodraeth Cymru neu ffoniwch 119. Os oes gennych broblemau gyda'ch clyw neu leferydd, gallwch drefnu apwyntiad drwy ffonio 18001119.
Mae cyfleuster profi galw heibio hefyd ar gael rhwng 8am-8pm ym maes parcio'r Neuadd Fowlio ger Canolfan Fywyd Pen-y-bont ar Ogwr (CF31 4AH). Mae’n rhaid trefnu apwyntiad ar gyfer y cyfleuster hwn hefyd.
Dylai unrhyw un sy'n dangos symptomau'r coronafeirws - peswch sych parhaus, tymheredd uchel neu newid yn ei synnwyr blasu neu arogli - drefnu prawf cyn gynted â phosibl.
Mae gwiriwr symptomau ar-lein ar gael ar wefan 111 GIG Cymru.
Am unrhyw ymholiadau cyffredinol, cysylltwch â chanolfan cyswllt cwsmeriaid Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr:
09:00 to 17:00 Dydd Llun i Ddydd Iau;
09:00 to 16:30 Dydd Gwener.