Uned breswyl newydd ar agor drwy gydol y flwyddyn yn ysgol Heronsbridge
Poster information
Posted on: Dydd Mawrth 30 Ionawr 2018
Agorwyd uned breswyl newydd yn swyddogol yn Ysgol Heronsbridge, Pen-y-bont ar Ogwr lle gall plant a phobl ifanc ag anghenion cymhleth gael cymorth drwy gydol y flwyddyn yn agos at eu cartref.
Mae tŷ’r gofalwr, sydd gerllaw’r ysgol, wedi cael ei ailwampio a’i ehangu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ac mae’n cynnig erbyn hyn lety i hyd at dri phlentyn a pherson ifanc rhwng wyth a 19 mlwydd oed.
Cyn i’r cyfleuster newydd gael ei ddatblygu, bu’n rhaid lleoli plant sydd angen cymorth helaeth mewn awdurdodau lleol cyfagos - sefyllfa nad oedd yn ddelfrydol, fel y nodwyd gan y Cynghorydd Phil White, yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar: “Er bod teuluoedd yn sicr wedi gwerthfawrogi’r ffaith bod cymorth ar gael iddyn nhw, fe wnaethon nhw sôn wrthym ni fod gorfod mynd y tu allan i’r fwrdeistref sirol yn drafferthus iawn weithiau.
“Mae sefydlogrwydd a chysondeb yn hynod o bwysig ym mywyd person ifanc. Felly rydym ni’n falch iawn o greu’r uned breswyl newydd hon fel y gall plant a phobl ifanc aros o fewn eu cymuned leol.
“Hefyd, roedd lleoli pobl ifanc mewn awdurdodau cyfagos yn ddrud iawn i ni. Ein barn ni yw y bydd y datblygiad newydd hwn yn gwneud mwy o synnwyr yn ariannol.
“Dewiswyd yr enw Tŷ Harwood i anrhydeddu gofalwr ysgol Heronsbridge, Mr Harwood, sydd wedi gweithio i’r ysgol am flynyddoedd ac roedd yn arfer byw yno. Mr Harwood yw un o hoelion wyth yr ysgol, ac felly mae’n addas iawn enwi’r uned breswyl newydd ar ei ôl.”
Mae Tŷ Harwood wedi bod yn weithredol ers mis Tachwedd a chawsom ni adborth rhagorol gan aelodau staff, plant a’u rhieni. Hoffwn i ddiolch i bawb a oedd yn rhan o’r prosiect ar draws y gwahanol adrannau yn y cyngor. Mae hi wedi bod yn ymdrech ar y cyd go iawn.
Cynghorydd Phil White, yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar.