Un o gewri rygbi Cymru yn ymuno â busnesau i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi
Poster information
Posted on: Dydd Mawrth 10 Mawrth 2020
Derbyniodd Ieuan Evans MBE, un o gyn chwaraewyr mwyaf adnabyddus Cymru, groeso cynnes ym mrecwast busnes blynyddol Fforwm Busnes Pen-y-bont ar Ogwr i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi 2020 yn ddiweddar.
Mynychodd dros gant o bobl fusnes y digwyddiad a gynhaliwyd yng Ngwesty Coed y Mwstwr, Llangrallo, lle gwnaeth Ieuan rannu rhai o brofiadau mwyaf cofiadwy ei yrfa rygbi helaeth.
Cafodd y cynrychiolwyr busnes eu diddanu'n llwyr â'i straeon difyr ynglŷn â rhai o ddigwyddiadau mwyaf allweddol ei yrfa rygbi, gan gynnwys digon o straeon am bobl chwaraeon a rhai o'r cymeriadau bythgofiadwy y mae wedi cwrdd â nhw ar hyd y ffordd.
Roedd ei agwedd benderfynol a'i allu i wneud penderfyniadau caled yn rhywbeth a allai ysbrydoli aelodau'r fforwm ac roeddent yn gallu gweld hefyd sut y gallai hyn gael ei drosi i fyd busnes cystadleuol.
Rwyf bob amser wedi edmygu Ieuan Evans, roeddwn i'n teimlo bod ei anerchiad heddiw yn ysbrydoledig iawn. Darparodd digwyddiad blynyddol Dydd Gŵyl Dewi y fforwm gyfle defnyddiol arall i fusnesau lleol ddod at ei gilydd i rwydweithio a dathlu llwyddiant ar draws y fwrdeistref sirol. Mae Dydd Gŵyl Dewi yn gyfle i ddathlu'r holl bethau da sydd gennym yng Nghymru a'r gymuned Gymraeg, gan gynnwys entrepreneuriaeth a thwf busnes.
Rwyf wrth fy modd ein bod wedi gallu cefnogi'r fforwm ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr dros y deng mlynedd diwethaf. Gyda bron i 1,000 o aelodau yn y fforwm a mwy na 1,300 o gynrychiolwyr yn mynychu digwyddiadau'r fforwm busnes yn flynyddol, mae'n arwydd da bod yr economi yn parhau i ffynnu yn y fwrdeistref sirol.
Mae'r fforwm yn parhau i fod yn ddylanwad cadarnhaol yn y gymuned fusnes leol, gan hyrwyddo gweithio ar y cyd a chysylltiadau cadarn rhwng y sector preifat a chyhoeddus.
Cynghorydd Charles Smith, Aelod Cabinet y Cyngor dros Addysg ac Adfywio, wnaeth gyflwyno'r siaradwr gwadd
Dywedodd y wraig fusnes leol Wendy Derrick o Leading Confidently, sefydliad hyfforddiant ar gyfer arweinyddiaeth a rheolaeth: “Am anerchiad gwych gan Ieuan Evans heddiw! Buodd yn trafod arweinyddiaeth a phwysigrwydd bod yn chi eich hun. Roedd yn fore gwych yma, yng Nghoed-y-Mwstwr!”
Dywedodd Ieuan Evans: “Diolch yn fawr am y gwahoddiad caredig i ddod i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi gyda chi i gyd. Rwy'n falch iawn o fod yma!
“Efallai bod y tywydd yn wlyb ac yn ddiflas y tu allan ond mae wedi bod yn fore hwyliog yma; llawer o siarad am bethau amrywiol a chwestiynau gwych o'r llawr! Rwy'n credu bod pawb wedi mwynhau!
“Mae digwyddiadau fel y rhain mor bwysig - mae'n gyfle gwych i bobl â’r un meddylfryd gyfnewid syniadau busnes a thrafod yr heriau sy'n wynebu busnesau yn yr ardal. Mae'n rhoi cyfle i bobl rannu gwybodaeth a helpu ei gilydd i symud ymlaen. Mae'r cyfan at fudd ehangach.”
Gellir gweld rhagor o wybodaeth am ddod yn aelod o'r fforwm, yn ogystal â manylion am ddigwyddiadau sydd i ddod yn http://www.bridgendbusinessforum.co.uk/index.php?lang=wel&id=
Gallwch hefyd gael y wybodaeth ddiweddaraf drwy hoffi 'Bridgend Business Forum' ar Facebook, neu ddilyn @Fforwmbusnes ar Twitter.