Un mis i fynd hyd nes y bydd cerfluniau Snoopy yn cyrraedd Porthcawl!
Poster information
Posted on: Dydd Gwener 11 Mawrth 2022
Rydym yn cyfrif y dyddiau hyd nes i ni groesawu cerfluniau Snoopy lliwgar i strydoedd Porthcawl fel rhan o lwybr celf cyhoeddus arbennig Dog’s Trust.
Bydd chwe cherflun mawr o bartner ffyddlon Charlie Brown o’r stribed cartŵn Peanuts i’w gweld mewn lleoliadau allweddol ledled y dref rhwng 8 Ebrill – 5 Mehefin 2022.
Mae pob cerflun wedi cael ei addurno mewn ffordd unigryw gan artistiaid lleol, gyda 12 o gerfluniau bychain ychwanegol o Snoopy wedi’u creu gan ysgolion gan gynnwys Ysgol Gynradd Brynmenyn, Ysgol Brynteg, Ysgol Gynradd Afon y Felin, Ysgol Gynradd Tondu, Ysgol Gynradd Gatholig y Santes Fair a Sant Padrig, Ysgol Cynwyd Sant, Ysgol Maesteg, Ysgol Gynradd Notais, Ysgol Gynradd Abercerdin, Ysgol Gynradd Coety, Ysgol Gynradd Pencoed, ac Ysgol Gynradd Cwmfelin.
Bydd y cerfluniau bach yn cael eu harddangos mewn ‘heidiau’ mewn lleoliadau dan do ledled Porthcawl, gan gynnwys yr harbwr, Canolfan Chwaraeon Dŵr Rest Bay a Phafiliwn y Grand.
Bydd ymwelwyr i’r dref yn medru dod o hyd i bob un o’r darnau celf lliwgar hyn a manteisio ar gynigion arbennig gan fusnesau ar hyd y llwybr gan ddefnyddio’r ap Dog’s Trail a fydd yn cael ei lansio dros yr wythnosau nesaf.
Dywedodd Rebecca Staden, rheolwr y prosiect A Dog’s Trail with Snoopy: “Dyma’r tro cyntaf i lwybr celf cerfluniau Snoopy gael ei gynnal yn y DU, felly mae’n gyffrous iawn mai ond pedair wythnos sydd i fynd hyd nes y byddwn yn datguddio’r cerfluniau, o’r diwedd.
“Mae’r llwybr yn ddiddigwyddiad gwirioneddol galonogol, sydd eisoes wedi uno cymunedau, gydag ysgolion yn cael dylunio’r cerfluniau Snoopy bach, busnesau’n cymryd rhan fel noddwyr ac artistiaid yn cael cyfle i arddangos eu gwaith.
“Rydym yn gobeithio croesawu miloedd o bobl i ddod am dro gyda ni ac i fwynhau’r llwybr rhwng 8 Ebrill a 5 Mehefin.”
Ers rhai misoedd bellach, mae’r awdurdod lleol wedi bod yn gweithio’n agos â'r Dog’s Trust, sy’n ganolfan ail-gartrefu wedi’i lleoli ger Pen-y-fai, i gynnal y llwybr byr ym Mhorthcawl fel estyniad ar y prif lwybr yng Nghaerdydd.
Mae’n gyfle gwych ar gyfer economi ymwelwyr Porthcawl, a bydd hefyd yn helpu i roi hwb i’r economi leol yn ogystal â bod o fudd i elusen arbennig sydd eisoes â chysylltiadau â’r fwrdeistref sirol.
Rydym hefyd yn gobeithio codi proffil Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr fel lle sy’n croesawu cŵn wrth gynnal rhywfaint o weithgareddau marchnata a chyhoeddusrwydd wedi'u targedu'n benodol.
Cynghorydd Stuart Baldwin, yr Aelod Cabinet dros Gymunedau
Mae noddwyr ar gyfer y digwyddiad ym Mhorthcawl yn cynnwys Coleg Penybont, sydd wedi noddi cerflun o Snoopy o’r enw Kintsugi, a fydd wedi’i leoli o flaen Pafiliwn y Grand a Bysiau First Cymru, y bydd eu cerflun o Snoopy, Happy Little Clouds, wedi’i leoli yn y bandstand ar Stryd John.
Dywedodd llefarydd ar ran Bysiau First Cymru: "Rydym ar ben ein digon i fod yn noddi un o'r cerfluniau Snoopy cyntaf erioed i’w gweld ar lwybr yn y DU.
“Dyma gyfle gwych i archwilio harddwch Porthcawl ac i gefnogi achos arbennig ar yr un pryd.”
Dywedodd llefarydd ar ran Coleg Penybont: “Rydym wrth ein bodd i fod yn noddi’r fenter arbennig hon ym Mhorthcawl.
“Rydym yn falch o fod yn cefnogi achos a fydd yn gwneud gwahaniaeth yn ein cymuned, wrth annog pobl i archwilio ein hamgylchedd hyfryd a chael hwyl ar yr un pryd.”
Bydd llwybrau tebyg hefyd ar gael yng Nghaerffili ac yng Nghaerdydd yn ogystal ag ym Mhorthcawl.
Pan ddaw cyfnod y llwybr i ben, bydd y cerfluniau’n cael eu harwerthu mewn digwyddiad arbennig i gefnogi gwaith Dog’s Trust.
Cadwch lygad allan ar wefan y cyngor ac ar ein cyfryngau cymdeithasol am ragor o gyhoeddiadau am y digwyddiad, gan gynnwys lleoliad pob cerflun Snoopy, a sut i lawrlwytho’r ap.
I ddysgu mwy am y llwybr, ewch i www.adogstrail.org.uk
Fel rhagflaenydd i’r digwyddiad, mae’r cyngor hefyd wedi bod yn gweithio ar ymgyrch Woof you were here, sydd â’r bwriad o hyrwyddo Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr fel lle sy’n croesawu cŵn. Mae pecyn cymorth ar gyfer busnesau sy’n cynnwys awgrymiadau ardderchog, banc lluniau a fideos ar gael ar wefan Croeso i Ben-y-bont ar Ogwr.