Uchelgeisiau Rhydychen a Chaergrawnt yn cael cefnogaeth gan Rwydwaith Seren
Poster information
Posted on: Dydd Iau 13 Rhagfyr 2018
Mae rhai o ieuenctid mwyaf disglair Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi mynd i un o ddigwyddiadau cyntaf Rhwydwaith Seren eleni er mwyn eu helpu i dargedu lleoedd mewn prifysgolion blaenllaw.
Yn seiliedig ar ganlyniadau rhagorol TGAU haf diwethaf, bydd 150 o ddisgyblion chweched dosbarth sy'n perfformio orau yn y fwrdeistref sirol yn cael eu gwahodd i gyfres o weithdai drwy gydol y flwyddyn academaidd hon i ddeall mwy am y broses ymgeisio gystadleuol i Rydychen a Chaergrawnt a phrifysgolion arweiniol eraill.
Mae Rhwydwaith Seren wedi'i sefydlu mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, dosbarthiadau chweched mewn ysgolion uwchradd, Coleg Pen-y-bont ar Ogwr a Llywodraeth Cymru ac yn dilyn trefn rhwydweithiau tebyg sydd wedi'u creu mewn mannau eraill i fynd i'r afael â gostyngiad yn nifer y ceisiadau o Gymru i Rydychen a Chaergrawnt. Mae Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr hefyd yn rhan o ganolfan ranbarthol ehangach gyda Chastell-nedd Port Talbot a Phowys.
Cynhaliwyd digwyddiad lansio eleni yng Ngholeg Pen-y-bont ar Ogwr lle cyfarfu’r bobl ifanc talentog a'u rhieni â chynrychiolwyr prifysgol o Rydychen, Caerfaddon a The Brilliant Club.
Aeth nifer o'r myfyrwyr wedyn i gynhadledd genedlaethol Rhwydwaith Seren yn y Drenewydd yr wythnos diwethaf. Gallant hefyd wneud cais am ysgolion haf a phrofiadau preswyl eraill ym mhrifysgolion mwyaf blaenllaw’r DU yn ogystal â Yale yn UDA.
Gan fod Rhwydweithiau Seren eraill wedi profi llwyddiant yn codi dyheadau mewn rhannau eraill o Gymru, roeddem yn falch o gyflwyno un yma ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr am y tro cyntaf y llynedd. Roeddem hyd yn oed yn fwy balch o weld bod myfyriwr o Goleg Cymunedol y Dderwen wedi ennill lle yn y flwyddyn sylfaen yng Ngholeg Neuadd yr Arglwyddes Margaret, Rhydychen, ar gyfer Hydref 2018. Hi oedd yr unig fyfyrwraig o Gymru i gael cynnig lle ar y rhaglen fawreddog hon.
Derbyniodd chwe myfyriwr o Fwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr gynigion gan Rydychen a Chaergrawnt ar gyfer 2018-2019. Roedd hyn yn golygu bod 28.5 y cant o geisiadau lleol i Rydychen a Chaergrawnt yn llwyddiannus, sy'n cynrychioli cyfran uwch na'r cyfartaledd yng Nghymru. Derbyniodd bron pob un o fyfyrwyr Rhwydwaith Seren y llynedd gynigion gan 30 o brifysgolion gorau Ymddiriedolaeth Sutton neu brifysgolion cystadleuol iawn eraill. Mae cymaint o straeon llwyddiannus i'w dathlu. Dylid annog ein pobl ifanc dawnus i herio eu hunain ac anelu'n uchel. Dylai’r rhai sydd â’r gallu fod yn ystyried Rhydychen a Chaergrawnt a phrifysgolion blaenllaw eraill fel opsiwn heb os nac oni bai, ac felly mae'r rhwydwaith hwn wedi'i sefydlu i roi'r cyfle gorau posibl iddyn nhw wireddu eu potensial academaidd.
Yn amlwg mae llawer o gystadleuaeth i gyrraedd y prifysgolion hyn, ac felly mae aelodau o'r rhwydwaith yn cael cefnogaeth i ddenu sylw atynt eu hunain er mwyn bod yn gwbl barod ar gyfer y broses ymgeisio. Byddant yn derbyn awgrymiadau ymarferol ar y profion a chyfweliadau ymgeisio, a byddant hefyd yn gallu creu cysylltiadau a chyfeillgarwch gyda phobl glyfar eraill.
Cynghorydd Charles Smith, Aelod Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr dros Addysg ac Adfywio