Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Tua 4,000 o drigolion i dderbyn llythyr gan Lywodraeth Cymru yn eu cymell i aros gartref am y 12 wythnos nesaf

Bydd tua 4,000 o drigolion bwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn derbyn llythyr gan Lywodraeth Cymru dros yr ychydig ddyddiau nesaf yn eu cymell i aros gartref am y 12 wythnos nesaf.

Anfonir y llythyr at bobl y nodwyd bod risg uchel iawn iddynt fod yn ddifrifol sâl os ydynt yn dal y coronafeirws.

Bydd pob unigolyn yn derbyn cyngor penodol ynglŷn â sut y gall ddiogelu ei hun, yn seiliedig ar ei hanes meddygol unigol a'i anghenion iechyd.

Bydd y llythyrau, sydd wrthi'n cael eu dosbarthu, yn cynnwys cyngor clir i aros gartref am 12 wythnos, a byddant yn rhestru'r cymorth meddygol, ymarferol ac emosiynol sydd ar gael. 

Mae'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru wedi bod yn gweithio'n agos gyda Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru i sicrhau bod pawb sy'n derbyn y llythyr ac sydd angen cymorth yn gallu cael gafael arno yn eu cymuned leol.

Mae risg lawer uwch i bobl yng Nghymru sy'n byw gyda chyflyrau meddygol difrifol ddatblygu cymhlethdodau difrifol os ydynt yn agored i'r coronafeirws. Mae hyn yn cynnwys, er enghraifft, y rheiny sydd wedi derbyn trawsblaniad organ, a'r rheiny sy'n byw gyda ffeibrosis systig a rhai mathau o ganser y gwaed neu fêr esgyrn. 

Mae rhai pobl – nid pawb – sy'n derbyn mathau penodol o driniaethau cyffuriau, gan gynnwys y rheiny sy'n gwanhau’r system imiwnedd, hefyd yn y grŵp hwn o bobl sy'n agored iawn i niwed. 

Rydym yn cydnabod y bydd llawer o bobl yn bryderus yn ystod yr adeg hon o ansicrwydd anferth. Rydym yn benderfynol o sicrhau bod y rheiny sydd fwyaf agored i niwed i effeithiau'r coronafeirws yn derbyn yr holl ddiogelwch a chymorth sydd eu hangen arnynt. Rydym yn gweithio'n agos ar y cyd â'r sector gwirfoddol a phartneriaid eraill er mwyn sicrhau bod pecyn cymorth cynhwysfawr yn ei le ar gyfer y bobl hyn yn ystod yr adeg hon.

Fodd bynnag, er mwyn i ni wneud hynny, mae'n bwysig fod unrhyw un sy'n derbyn y llythyr yn cymryd y cyngor o ddifrif. Mae gan bob un ohonom ein rhan i'w chwarae. Drwy ddilyn canllawiau cadw pellter cymdeithasol, ac ufuddhau'r mesurau a nodwyd gan y Prif Weinidog a Phrif Weinidog Cymru neithiwr, byddwn yn diogelu ein hunain a phawb arall rhag y feirws yn y modd gorau posibl.

Mae'n wirioneddol mor syml â hyn: arhoswch gartref, achubwch fywydau.

Dywedodd arweinydd y cyngor, Huw David

Gofynnir i drigolion sy'n derbyn y llythyr gysylltu â Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ar 01656 643643 am gymorth os:

  • nad oes ganddynt aelodau o'r teulu a all helpu
  • nad oes ganddynt rwydwaith cymorth lleol o ffrindiau (neu eraill) a all helpu, neu
  • nad ydynt yn derbyn cymorth gan ofalwr neu sefydliad cymunedol a all helpu

Ledled Cymru, mae tua 70,000 o lythyrau'n cael eu hanfon at bobl sy'n agored i niwed.

Mae'r canllawiau ar gyfer y bobl y mae'r risg fwyaf iddynt yn cynnwys y canlynol:

  • Sicrhewch nad ydych mewn cyswllt o gwbl â rhywun sy'n arddangos symptomau o'r coronafeirws (COVID-19). Mae'r symptomau hyn yn cynnwys tymheredd uchel a/neu beswch newydd a chyson. 
  • Peidiwch â gadael eich tŷ am o leiaf 12 wythnos oni bai ei bod yn hollol hanfodol.
  • Bydd ymweliadau gan ofalwyr neu weithwyr gofal iechyd, a fyddai fel arfer yn dod i'ch helpu â'ch anghenion dyddiol neu ofal cymdeithasol, yn gallu parhau fel arfer.
  • Peidiwch ag ymgasglu â neb arall. Mae hyn yn cynnwys casgliadau o ffrindiau a theulu mewn mannau preifat, er enghraifft cartrefi teuluol, priodasau, partïon a gwasanaethau crefyddol. 
  • Peidiwch â mynd allan i siopa, hamddena neu deithio ac, wrth drefnu danfoniadau bwyd neu feddygaeth, dylid eu gadael wrth y drws er mwyn lleihau'r cyswllt. 
  • Cadwch mewn cysylltiad drwy ddefnyddio technoleg o bell fel ffonau, y rhyngrwyd, a'r cyfryngau cymdeithasol.
  • Defnyddiwch y ffôn neu wasanaethau ar-lein er mwyn cysylltu â'ch meddyg teulu neu wasanaethau hanfodol eraill yn ôl yr angen.

Chwilio A i Y