Troedffordd yn cau dros dro wrth i waith ar groesfan reilffordd gael ei gwblhau
Poster information
Posted on: Dydd Mercher 14 Gorffennaf 2021
Mae rhan o droedffordd boblogaidd ger Cefn Cribwr ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, wedi cau dros dro er mwyn sicrhau mesurau diogelwch newydd ar groesfan reilffordd gyfagos.
Mae oddeutu 81 medr o'r droedffordd wledig, sy'n ymestyn o waelod Ffordd Tŷ Isaf dros y brif lein reilffordd o Abertawe i Paddington, wedi cau wrth i staff Network Rail gwblhau asesiad o'r gwaith sydd ei angen o bosib, ar y groesfan reilffordd.
Bydd y droedffordd ar gau hyd nes y clywir yn wahanol a thra bo mesurau diogelwch newydd ar waith. Bydd yn ailagor ar ôl cwblhau'r gwaith hwn.
Mae hwn yn llwybr poblogaidd a godidog, sy'n cael ei ddefnyddio'n aml gan nifer o drigolion Cefn Cribwr, ond oherwydd y lleoliad gwledig, nid yw'n bosib darparu llwybr amgen.
Bydd y droedffordd yn ailagor cyn gynted ag y bydd y mesurau diogelwch wedi cael eu cyflwyno i sicrhau bod pobl yn gallu parhau i ddefnyddio'r groesfan reilffordd yn ddiogel. Mae pob ymdrech yn cael ei wneud i achosi cyn lleied o anghyfleustra â phosib.
Dywedodd Arweinydd y Cyngor, Huw David
Am fwy o wybodaeth am droedffyrdd lleol ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, ewch i wefan y cyngor.