Trigolion caredig yn rhoi anrhegion i Apêl Siôn Corn
Poster information
Posted on: Dydd Gwener 24 Rhagfyr 2021
Bydd cannoedd o bobl ifanc ar draws Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cael anrheg Nadolig eleni ar ôl i deganau ac anrhegion gael eu cyfrannu at Apêl Siôn Corn eleni.
Wedi’i threfnu gan staff Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Llesiant Busnes Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, mae’r ymgyrch yn anelu at ddarparu anrhegion Nadolig i’r rhai na fyddai o bosib yn derbyn anrheg fel arall.
Cefnogwyd yr ymgyrch gan nifer o fusnesau a sefydliadau yn y fwrdeistref sirol gan gynnwys Eglwys y Tabernacl Bracla, Eglwys y Bedyddwyr Hope Pen-y-bont ar Ogwr, Glo, Uned Driniaeth ac Asesiad Hafod y Wennol yn ogystal ag Aelod Seneddol.
Cynorthwyodd disgyblion yn Ysgol Gyfun Brynteg hefyd i godi dros £3,000 drwy gynnal ystod o ddigwyddiadau gan gynnwys Ras Siôn Corn a raffl. Cyfrannodd disgyblion Blwyddyn 10 yn yr ysgol 60 o fagiau o anrhegion hefyd fel rhan o'r Wythnos Her Sgiliau.
Yn ogystal â hyn, rhoddodd y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid i’r achos drwy ddylunio ac argraffu 320 o gardiau Nadolig ar gyfer pob parsel o anrhegion a gyflwynwyd.
Hoffwn gynnig diolch anferthol i’r holl fusnesau, sefydliadau ac unigolion sydd wedi cyfrannu at Apêl Siôn Corn eleni.
Yn ystod yr hyn a fu’n flwyddyn anodd arall yn llawn ansicrwydd, mae'n wych gweld cymunedau yn dod ynghyd yn y weithred hon o garedigrwydd.
Mae'n wych bod cymaint o anrhegion wedi cael eu rhoi i godi calonnau pobl ifanc ar draws Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ar Ddiwrnod Nadolig - diolch i bawb sydd wedi cyfrannu
Huw David
Mae Apêl Siôn Corn yn cefnogi plant a phobl ifanc o'u genedigaeth hyd at 25 mlwydd oed. Bellach, mae'r anrhegion yn cael eu dosbarthu gan wasanaethau cyhoeddus yn barod i'w hagor ar fore Nadolig.