Trigolion a lleoliadau gofal yn cael eu hatgoffa am gasgliadau bagiau porffor
Poster information
Posted on: Dydd Llun 18 Hydref 2021
Mae ymgyrch i hyrwyddo defnydd gwasanaethau Cynnyrch Hylendid Amsugnol (AHP) ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi’i lansio.
Fel rhan o’r gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn y fwrdeistref sirol, mae’r cyngor a’i bartneriaid gwastraff, Kier, yn casglu cynnyrch hylendid amsugnol nad oes modd eu hailgylchu’n arferol. Mae eitemau sy’n cael eu cynnwys yn y casgliadau hyn yn cynnwys: cynfasau gwely amsugnol, ffedogau tafladwy, clytiau, weipiau a mwy. Ar hyn o bryd, mae’r gwasanaeth yn cael ei gynnal bob pythefnos ar gyfer trigolion sydd wedi cofrestru ar gyfer y gwasanaeth, ac mae casgliadau’n cael eu cynnal ar yr un diwrnod â gwastraff nad oes modd ei ailgylchu.
Mae trigolion a gweithwyr gofal yn cael eu hatgoffa na fydd bagiau porffor yn cael eu casglu os ydynt yn cynnwys gwastraff cartref cyffredinol neu eitemau misglwyf a gellir eu hail-fagio at ddibenion preifatrwydd cyn eu rhoi allan i’w casglu.
Mae ein casgliadau AHP wedi profi i fod yn hynod boblogaidd dros y blynyddoedd ac wedi dargyfeirio 4,826 o dunelli o glytiau ac eitemau eraill rhag cyrraedd safleoedd tirlenwi, a’u hanfon i gael eu hailgylchu.
Mae’r gwasanaeth hwn yn wych ar gyfer cartrefi a lleoliadau gofal ledled y fwrdeistref sirol ac yn helpu i wneud cyfraniad sylweddol tuag at ein hystadegau ailgylchu sydd eisoes yn rhagorol, yn ogystal â bod o fudd i’r amgylchedd.
Dywedodd y Dirprwy Arweinydd Hywel Williams
I ddysgu mwy ac i gofrestru ar gyfer y gwasanaeth, gallwch roi galwad i ni ar 01656 643643, mynd i’n tudalen we gwastraff ac ailgylchu neu e-bostio recyclingandwaste@bridgend.gov.uk.