Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Treialu dull newydd o arddangos gwybodaeth am fysiau

Mae arwydd arddangos gwybodaeth am fysiau newydd, digidol, yn cael ei dreialu yng Ngorsaf Fysiau Pen-y-bont ar Ogwr.

Wedi'i gosod yn ei lle ym Mae 5 ar hyn o bryd, mae'r arddangosfa'n cynnwys yr amser gadael disgwyliedig, y cyrchfan, llefydd o ddiddordeb, y gweithredwr a rhif y gwasanaeth.

Oherwydd y meddalwedd a’r caledwedd hen ffasiwn yn yr arddangosfeydd gwybodaeth blaenorol a osodwyd yn eu lle am y tro cyntaf pan wnaethon ni agor yr orsaf fysiau ym mis Tachwedd 2004, fe wnaethon ni eu tynnu y llynedd, ac rydyn ni nawr yn treialu arddangosfa ddigidol newydd ym Mae 5 sy'n cynnwys ein llwybrau prysuraf ni.

Rydyn ni’n gobeithio gallu prynu mwy o arddangosfeydd yn y dyfodol os byddwn ni’n llwyddo i gael grant o’r Gronfa Drafnidiaeth Leol.

Yn y cyfamser, byddem yn croesawu adborth ar yr arddangosfa newydd gan deithwyr drwy ein rheolyddion yn yr orsaf fysiau, sydd wedi’u lleoli yn y Swyddfa Wybodaeth yng Ngorsaf Fysiau Pen-y-bont ar Ogwr.

Dywedodd y Cynghorydd John Spanswick, Aelod Cabinet dros Gymunedau Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr:

Chwilio A i Y