Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Trefnu digwyddiad yr haf hwn?

Mae preswylwyr a threfnwyr sy’n bwriadu cynnal digwyddiadau cyhoeddus yr haf hwn yn cael eu hatgoffa o’r pecyn cymorth defnyddiol sydd ar gael gan y cyngor.

Mae’r pecyn cymorth ar gyfer digwyddiadau sydd ar gael ar dudalennau busnes Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, yn cynnwys chwe cham hawdd i’w dilyn ar gyfer trefnwyr ac fe’i dyluniwyd i gynnig siop un stop yn cynnwys yr holl ddolenni a gwybodaeth am gynllunio digwyddiad y byddant eu hangen.

Cafodd y pecyn cymorth ei greu gan y Grŵp Cynghori ar Ddiogelwch Digwyddiadau (EASG).  Mae’n cynnig cyngor ac arweiniad ar ddiogelwch ac agweddau rheoleiddio digwyddiadau sy’n cael eu cynllunio ar gyfer y cyhoedd, ac yn eu hannog nhw i gysylltu cyn gynted â phosib.

Mae cyfarfodydd ESAG yn cael eu cynnal ar y trydydd dydd Mercher o bob mis, felly dylid cyflwyno ffurflen hysbysu am ddigwyddiad cyn gynted â phosib ar ôl dechrau cynllunio. Dylid cyflwyno cynlluniau wedi’u cwblhau’n llawn o leiaf 10 diwrnod gwaith cyn cyfarfod er mwyn cynnwys y digwyddiad ar yr agenda.

Nid yw trefnu digwyddiad cyhoeddus yn hawdd, ond mae’r pecyn cymorth ESAG yn ceisio ei wneud mor syml a didrafferth â phosib.

Mae hwn yn adnodd ardderchog sy’n cynnig cyngor syml, cam wrth gam ac yn rhoi’r holl wybodaeth sydd angen i chi ei gwybod cyn trefnu digwyddiad ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Dywedodd Arweinydd y Cyngor, Huw David:

Chwilio A i Y