Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Trefnu amrywiaeth eang o weithgareddau er budd pobl ifanc

Mae amrywiaeth eang o weithgareddau wedi’u darparu ledled Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr er mwyn cadw pobl ifanc yn egnïol yr haf hwn.

Mae mwy na 30 o grwpiau cymunedol wedi ateb yr alwad i helpu pobl ifanc trwy’r ardal i gael ‘haf o hwyl’, gan drefnu gweithgareddau i bobl ifanc o bob gallu a diddordeb, yn amrywio o dripiau undydd a chelf i syrffio a dringo.

Cefnogir y rhaglen gan Lywodraeth Cymru, ac mae’n ychwanegu at y cyfleoedd lleol a ddarperir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a phartneriaid allweddol.

Erbyn hyn caiff clybiau, grwpiau a mudiadau gymorth i gynnal gweithgareddau gwyliau ar gyfer eu haelodau ac eraill ar ôl i Gymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Pen-y-bont ar Ogwr gyhoeddi y bydd modd cefnogi cyfleoedd cymunedol dros yr haf ac i fis Medi.

Bellach mae llu o weithgareddau newydd ar gael trwy gyfrwng mudiadau sy’n rhan o ‘Bridgend Youth Matters’, yn cynnwys gwaith ieuenctid ac anturiaethau awyr agored.

Mae’r rhain yn cynnwys BAD Bikes yng Nghwm Ogwr, sydd wedi trefnu sesiynau beicio a chynnal a chadw beiciau, heriau natur a choginio ar dân gwersyll; a Menter Bro Ogwr, sy’n cynnig gweithgareddau iaith Gymraeg yn cynnwys chwaraeon haf, clwb ceidwaid coetir a chlwb coginio ar-lein.

Yn y cyfamser, mae YMCA Pen-y-bont ar Ogwr wedi trefnu amrywiaeth o weithgareddau anturus yn cynnwys dringo, cerdded ceunentydd a chanŵio, ac mae galw mawr wedi bod am lefydd.

Ac mae grwpiau ieuenctid lleol – yn cynnwys Clwb Bechgyn a Merched Betws, Prosiect Cymunedol Noddfa, prosiect Courthouse a Calon y Cwm – wrthi’n rhoi rhaglenni ieuenctid sy’n llawn gweithgareddau amrywiol ar waith.

Ymhellach, mae Clwb Syrffio Arfordir Cymru wedi canolbwyntio ar ymestyn cyfleoedd syrffio, ac mae elusen leol o’r enw Karma Sea yn cynnig gweithgareddau therapi syrffio i bobl ifanc.

Gyda’r Gemau Olympaidd ar eu hanterth, ac yna’r Gemau Paralympaidd i ddilyn, mae Clwb Athletau Pen-y-bont ar Ogwr wedi bod wrthi’n trefnu sesiynau sgiliau Rhedeg Neidio Taflu; a chan adeiladu ar lwyddiant Wimbledon, mae Clwb Tennis Cwm Garw wrthi’n cynnig cyfleoedd datblygu a hyfforddi’n ymwneud â thennis.

Caiff cymunedau lleol eu cynorthwyo i ddatblygu eu gweithgareddau eu hunain ac i gynyddu’r amrywiaeth o bethau y gall pobl ifanc eu gwneud ar garreg eu drws yr haf hwn.

Mae’n wych gweld cynifer o weithgareddau gwahanol yn cael eu cynnal gan grwpiau cymunedol ac elusennau ledled y fwrdeistref sirol er budd pobl ifanc.

Gall y dasg o gadw pobl ifanc yn egnïol dros yr haf fod yn un eithaf heriol, ond gan fod cynifer o opsiynau’n cael eu cynnig eleni ar gyfer pobl ifanc o bob gallu, yr her mewn gwirionedd fydd penderfynu beth i’w wneud.

Hoffwn ddiolch i’n partneriaid, ein grwpiau cymunedol a’n helusennau i gyd am ddarparu rhaglen o ddigwyddiadau a gweithgareddau – rydw i’n siŵr y byddan nhw’n boblogaidd dros ben ymhlith pobl ifanc yr haf hwn.

Cynghorydd Dhanisha Patel, Aelod Cabinet dros Lesiant a Chenedlaethau’r Dyfodol

Chwilio A i Y