Trefniadau profi symudol diweddaraf ym mwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Poster information
Posted on: Dydd Iau 10 Mehefin 2021
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wedi cadarnhau'r trefniadau diweddaraf ar gyfer cyfleusterau profi coronafeirws symudol ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Mae cyfleuster profi symudol galw heibio yn parhau i fod ar gael yng Nghanolfan Gymunedol Awel-y-Môr yn Nheras Hutchwns (CF36 5TP), rhwng 9am a 6pm bob dydd, ac nid oes angen apwyntiad.
Yn y cyfamser, mae cyfleuster profi galw heibio yn parhau i fod ar agor ym maes parcio'r Neuadd Fowlio ger Canolfan Fywyd Pen-y-bont ar Ogwr (Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4AH). Mae'r cyfleuster ar agor rhwng 2pm ac 8pm, saith diwrnod yr wythnos, ac mae'n rhaid trefnu apwyntiad.
I drefnu apwyntiad ar gyfer unrhyw un o’r cyfleusterau profi ym Mhen-y-bont ar Ogwr, ewch i wefan Llywodraeth Cymru (Dolen allanol - Yn agor mewn tab neu ffenestr newydd) neu ffoniwch 119. Gall pobl ag anawsterau clyw neu leferydd drefnu apwyntiad drwy ffonio 18001119.
Anogir unrhyw un sy’n datblygu peswch parhaus newydd, tymheredd uchel neu newid yn eu gallu i arogli neu flasu i drefnu prawf ar unwaith.
Rydym yn gwybod bod achosion o'r amrywiolyn delta ar gynnydd ac mae angen i bob un ohonom barhau i gymryd camau i amddiffyn ein hunain a'n hanwyliaid – mae hyn yn golygu cadw pellter cymdeithasol, gwisgo gorchuddion wyneb lle bo angen a pharhau i olchi ein dwylo i helpu i leihau'r risg o drosglwyddo.
Dywedodd arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Huw David