Trefniadau profi symudol diweddaraf ar gyfer Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Poster information
Posted on: Dydd Mercher 21 Ebrill 2021
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wedi cadarnhau bod ei gyfleuster profi symudol gyrru i mewn ar gyfer preswylwyr sydd â symptomau Covid-19 yn aros yn y Pîl.
Mae profion ar gael yn ddyddiolyn y Pwll Nofio Halo yn Marshfield Avenue yn y Pil (CF33 6RP) rhwng 9yb-5yh ac mae archebu yn hanfodol trwy ymweld â gwefan Llywodraeth Cymru neu ffonio 119. Os oes gennych broblemau gyda'ch clyw neu leferydd, ffoniwch 18001119.
Mae'r cyfleuster profi galw heibio ym maes parcio'r Neuadd Fowlio yng Nghanolfan Fywyd Pen-y-bont ar Ogwr (CF31 4AH) hefyd ar agor yn ddyddiol rhwng 2yp ac 8yh, i bobl â symptomau. Mae’n rhaid trefnu apwyntiad ar gyfer y cyfleuster hwn hefyd.
Dylai unrhyw un sy'n dangos symptomau'r coronafeirws - peswch sych parhaus, tymheredd uchel neu newid yn ei synnwyr blasu neu arogli - hunanynysu ar unwaith, a threfnu i gael prawf cyn gynted â phosib. Mae gwiriwr symptomau ar-lein ar gael ar wefan 111 GIG Cymru.