Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Trefniadau cyfyngiadau symud newydd ar gyfer bwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn gweithio ar fabwysiadu canllawiau newydd gan Lywodraeth Cymru ar drefniadau cyfyngiadau symud yn ystod pandemig y coronafeirws Covid-19.

Yn dilyn cyhoeddiad diweddar Mark Drakeford, y Prif Weinidog, bydd y cyfyngiadau symud ym mwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr Sirol yn parhau gyda nifer o fân newidiadau.

Er mai'r cyngor cyffredinol o hyd yw y dylai trigolion aros gartref, osgoi pob cyswllt dianghenraid, gwneud ymarfer corff yn lleol a lleihau'r risg o ddod i gysylltiad â’r feirws, bydd pobl yn gallu gwneud ymarfer corff fwy nag unwaith y dydd, cyn belled â'u bod yn aros yn lleol ac nad ydynt yn gyrru i leoliad arall at y diben hwn.

Bydd canolfannau ailgylchu'n parhau i fod ar gau am y tro, ond mae cynlluniau wrthi'n cael eu datblygu ar gyfer eu hailagor mewn ffordd ddiogel, ac mae'r cyngor a Kier wrthi'n cysylltu ynglŷn â pha weithdrefnau dros dro y bydd eu hangen er mwyn gwarchod iechyd a diogelwch parhaus staff a thrigolion fel ei gilydd.

Mae trafodaethau hefyd wrthi'n cael eu cynnal ag Awen Cultural Trust a Halo Leisure o ran sut y gellid ailddechrau gwasanaeth llyfrgell o fewn y fwrdeistref sirol o bosibl, eto â phwyslais ar gynnal mesurau cadw pellter, gofynion teithio nad yw'n hanfodol a mwy.

Bydd busnesau nad ydynt yn hanfodol yn parhau i fod ar gau hefyd, ond mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y gall canolfannau garddio ailagor cyn belled ag y gallant ddangos fod gweithdrefnau priodol ac addas yn eu lle ar gyfer cadw pellter cymdeithasol. Caiff hyn ei reoleiddio a'i orfodi gan y Gwasanaeth Rheoliadol a Rennir.

Ein prif flaenoriaeth fydd cynnal diogelwch a llesiant ein trigolion o hyd wrth i ni geisio gweithredu'r rheoliadau diweddaraf gan Lywodraeth Cymru. Er y bydd yn cymryd amser i sefydlu hyn yn iawn, mae'n nodi'r cam cyntaf tuag at adfer rhai gwasanaethau mewn ffordd ofalus, diogel a synhwyrol, a hoffwn ddiolch i’r holl drigolion am eu hamynedd a chydweithrediad parhaus.

Dywedodd arweinydd y cyngor, Huw David

Chwilio A i Y