Trawsnewid safle diwydiannol yn noddfa i fywyd gwyllt
Poster information
Posted on: Dydd Llun 13 Medi 2021
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cefnogi Cyngor Cymunedol Ogwr i drawsnewid safle golchfa lo ym Mro Ogwr yn noddfa i natur a bywyd gwyllt.
Gwnaed sawl cais llwyddiannus am grantiau gan y cyngor cymunedol a Thîm Datblygiad Gwledig yr awdurdod lleol, Reach, i ddatblygu safle Golchfeydd Ogwr yn ardal a fyddai’n gweithredu er budd y gymuned leol.
Cyllidodd Reach werthusiad cychwynnol ar gyfer y safle Golchfeydd a nododd botensial gwaith a ffynonellau cyllid. Yna gwnaethant weithio gyda thîm cefn gwlad y cyngor er mwyn gwneud cais am gyllid, cydlynu gwaith safle ac ymgymryd â’r ceisiadau grant.
Ymhlith y grantiau, sicrhawyd £45,250 o gyllid ‘Lleoedd Lleol ar gyfer Natur’ Llywodraeth Cymru. Canolbwyntiodd y prosiect ar annog bioamrywiaeth ym Mro Ogwr trwy reoli, adfywio a chreu cynefin.
Roedd hyn yn ymwneud â gwella cynefinoedd ar gyfer infertebratau, yn enwedig peillwyr, trwy reoli prysgwydd ar y safle a chreu ardal ar wahân ar gyfer bywyd gwyllt. Mae’r cynefin gwell eisoes wedi dod yn gartref i nifer o infertebratau prin iawn ar domenni’r lofa. Ers cwblhau’r gwaith, mae un o’r Rhywogaethau Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Cymru, y Wenynen Lwydfrown, wedi cael ei gweld ar y safle.
Mae coed brodorol a glaswelltir blodeuog wedi eu plannu mewn ardal arall ac mae postyn gwenyn dau fedr o uchder wedi ei osod er mwyn denu gwenyn unigol. Mae deugain o flychau adar ac ystlumod hefyd wedi cael eu gosod ar draws y safle.
Dyfarnwyd £50,000 o gyllid ychwanegol i’r prosiect gan Dasglu Rhanbarthol y Fro ar gyfer darpariaeth llwybrau, meinciau a gwaith celf ar y safle. A dyfarnwyd £4,700 i’r cyngor cymunedol hefyd mewn Cyllid Loteri Treftadaeth ar gyfer sefydlu Codau QR a datblygiad map i greu llwybr treftadaeth.
Mae ystafell ddosbarth awyr agored ac ardal bicnic hefyd wedi cael eu sefydlu ar safle’r Golchfeydd, a gaeodd yn 1986.
Mae wedi bod yn wych gweld y safle diwydiannol hwn yn cael ei drawsnewid yn llecyn hyfryd, gyda’r gobaith y bydd o werth gwirioneddol i’r gymuned, lle i ymlacio a mwynhau’r awyr agored.
Hoffwn gymryd y cyfle hwn i ddiolch i’r holl dimau oedd yn rhan o’r gwaith am eu rôl wrth sicrhau’r cyllid a wnaeth y prosiect hwn yn bosibl.
Cynghorydd Dhanisha Patel, Aelod Cabinet dros Lesiant a Chenedlaethau'r Dyfodol