Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Trawsnewid a dathlu ein mannau gwyrdd

Mae mannau gwyrdd ar draws Cyngor Bwrdeistref Pen-y-bont ar Ogwr yn mynd i gael eu trawsnewid dros y pedair blynedd nesaf wrth i brosiect newydd o dan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, ‘Dolenni Gwyrdd’, gael ei lansio gan elusen Plantlife.

Mae Plantlife wedi ymrwymo i siarad ar ran planhigion gwyllt y genedl ac mae’n gweithio i amddiffyn y rôl dyngedfennol maen nhw’n ei chwarae mewn bywyd bob dydd, ac ennyn dealltwriaeth o’r rôl. 

Bydd ‘Dolenni Gwyrdd’ yn gweithio i ddathlu mannau gwyrdd yn y fwrdeistref sirol sydd wedi dod yn hafan bwysig i fywyd gwyllt sydd o dan fygythiad.

Mae'r ardal yn ddigon lwcus i fod â saith man gwyrdd sy’n gyforiog o natur, a bydd y rhain yn cael eu defnyddio a’u gwella gyda help ‘Dolenni Gwyrdd’. Nod y prosiect yw creu cysylltiadau fel y gall pobl feithrin mannau gwyrdd ac y gall mannau gwyrdd fod o fudd i bobl.

yn credu, drwy amlygu pwysigrwydd a gwerth yr ardaloedd hyn, bydd pobl yn dod i’w caru a’u trysori ac yn teimlo balchder yn yr hyn sydd ar gael yn agos at eu cartrefi, yn hytrach na’u gweld fel dim ond llefydd i fynd â'r ci am dro.

Mae Helen Bradley o Plantlife

Bydd mannau gwyrdd fel Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cynffig, Coed Tremaen a Pharc Gwledig Bryngarw hefyd yn elwa o’r prosiect hwn. Mae cadw’r ardaloedd hyn yn iach yn allweddol ar gyfer bywyd gwyllt ac mae denu pobl leol i gymryd rhan yn hanfodol er mwyn rheoli a chynnal a chadw’r mannau hyn.

Nod ‘Dolenni Gwyrdd’ yw llunio cyswllt rhwng y gymuned a mannau gwyrdd drwy ddarparu cyfleoedd i gymryd rhan weithredol a hyrwyddo’r defnydd o fannau gwyrdd ar gyfer gwirfoddoli, dysgu a mwynhad. Mae’r prosiect hefyd yn gobeithio creu budd parhaol drwy hyfforddi gwirfoddolwyr, addysgwyr a phartneriaid lleol i ddefnyddio’r mannau gwyrdd hyn ar gyfer gweithgareddau datblygu sgiliau, cadwraeth a lles. 

O ganlyniad, caiff ‘Rhwydwaith Gwyrdd’ ei sefydlu er mwyn cyd-drefnu a hyrwyddo cyfleoedd gwirfoddoli cadwraethol yn well.

Bydd amryw o weithgareddau prosiect yn digwydd o 2019 hyd at 2023 a byddant yn datblygu yn sgil adborth gan bartneriaid a phobl mewn cymunedol lleol:

  • Gweithgareddau gwyddonwyr newydd - bydd cyfleoedd i bobl ddysgu mwy am eu man gwyrdd lleol a’r bywyd gwyllt yno drwy weithgareddau gwyddoniaeth i ddinasyddion. Er enghraifft, gallai ysgol leol gael cymorth i greu gweithgaredd gwyddoniaeth i ddinasyddion yn canolbwyntio ar blanhigion yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol Cynffig neu gallai gael ei ddefnyddio fel gweithgaredd hyfforddi i addysgwyr.
  • Gweithgareddau cadwraeth - bydd yna gyfleoedd i gymunedau lleol ddysgu sgiliau newydd a helpu i reoli a monitro mannau gwyrdd. Er enghraifft, gallai sesiynau hyfforddi gael eu cynnal gyda gwirfoddolwyr ym Mharc Gwledig Bryngarw yn ymwneud â monitro planhigion fel y gallen nhw wedyn ddarparu cymorth gyda gweithgareddau monitro.
  • Gweithgareddau lles - bydd cyfleoedd i deuluoedd, unigolion a grwpiau ddefnyddio mannau gwyrdd er mwyn gwella iechyd a lles. Er enghraifft, gellid cael teithiau cerdded ar thema iechyd teuluol a phlanhigion meddyginiaethol neu hyfforddiant ymwybyddiaeth ofalgar mewn coetiroedd i weithwyr cymunedol.

Mae rhai gweithgareddau prosiect eisoes ar waith ac wedi cael adborth gwych gan y rhai fu’n cymryd rhan. Dywedodd Kate, a gymerodd ran yn y bore i deuluoedd yng Nghraig y Parcau: “Byddaf yn bendant yn mynd â'r bechgyn allan eto, yn enwedig os oes mwyar duon i’w cael. Roedd y tri ohonon ni wrth ein bodd. Roedd yn gymysgedd perffaith o gerdded, gweithgareddau a dysgu, a hynny ar garreg y drws.”

Chwilio A i Y