Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Trafodaethau ar droed ynghylch dyfodol Caeau Chwarae a Phafiliwn Chwaraeon Cwm Ogwr

Mae trafodaethau ynghylch dyfodol pafiliwn chwaraeon poblogaidd wrthi’n cael eu cynnal ar ôl i’r pafiliwn gael ei gau oherwydd pryderon iechyd a diogelwch.

Erbyn hyn, mae’r caeau chwarae a’r pafiliwn yng Nghwm Ogwr yn destun trosglwyddiad asedau cymunedol (CAT), lle bydd y berchnogaeth yn cael ei throsglwyddo o ddwylo Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i ddwylo Clwb Rygbi a Phêl-droed Cwm Ogwr yn y dyfodol agos.

Ar hyn o bryd, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn gweithio gyda Chlwb Rygbi a Phêl-droed Cwm Ogwr i gwblhau rhagolygon ariannol pum mlynedd a chais am gyllid dan y Gronfa CAT i osod pafiliwn newydd, gan yr ystyrir bod strwythur yr hen bafiliwn yn simsan.

Tra bydd y trafodaethau ar y gweill, mae’r clwb rygbi wedi gwneud trefniadau dros dro i ddefnyddio ystafelloedd newid mewn cyfleusterau eraill sy’n eiddo i’r Cyngor, megis Caeau Chwarae Aberfields (‘y Planca’) a Lewistown, gan chwarae gemau yng Nghwm Ogwr wrth i’r tymor ddechrau y penwythnos nesaf.

Ymhellach, mae gan y Clwb yr opsiwn i osod toiledau dros dro yng Nghaeau Chwarae Cwm Ogwr hyd nes y gellir rhoi ateb mwy parhaol ar waith.

Ein gobaith yw y bydd y trosglwyddiad asedau cymunedol ar gyfer Pafiliwn Chwaraeon Cwm Ogwr yn cadw cyfleuster cymunedol poblogaidd ar agor ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol ac yn ymestyn gwaddol a hanes balch Clwb Rygbi a Phêl-droed Cwm Ogwr yn yr ardal.

Mae’r rhaglen CAT yn helpu i ddiogelu cyfleusterau gwerthfawr i’n cymunedau. Ers diwedd mis Hydref 2020, mae clybiau chwaraeon a chynghorau tref a chymuned wedi mynegi diddordeb mewn rheoli 53 o gyfleusterau chwaraeon awyr agored a phafiliynau parc ledled y fwrdeistref sirol.

Hoffwn ddiolch i’r rhai sy’n gweithio gyda’r cyngor wrth inni geisio sicrhau y bydd y trefniadau ar gyfer rheoli’r cyfleusterau chwaraeon awyr agored yn gynaliadwy yn y tymor hir. Os oes unrhyw glwb yn ystyried cymryd rhan yn y rhaglen CAT, cofiwch gysylltu â ni.

Cynghorydd Stuart Baldwin, Aelod Cabinet Pen-y-bont ar Ogwr dros Gymunedau

Chwilio A i Y