Traethau Porthcawl yn cael y sgôr uchaf am ansawdd dŵr
Poster information
Posted on: Dydd Iau 19 Tachwedd 2020
Mae traethau Porthcawl wedi cael eu graddio'n rhagorol gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) am ansawdd eu dŵr ymdrochi.
Profwyd tri o saith bae y dref - Bae Rest, Bae Treco a Bae Tywodlyd, gan lwyddo i gadw eu sgôr tair seren, y dosbarthiad uchaf sy'n cael ei ddyfarnu gan CNC.
Dywedodd y Cynghorydd Charles Smith, Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio: "Mae hyn yn newyddion gwych ar gyfer traethau Porthcawl." Fel cyrchfan boblogaidd i syrffwyr, caiacwyr, padlfyrddwyr, canŵ-wyr ac eraill, gan gynnwys y rhai sy'n defnyddio canolfan chwaraeon dŵr newydd y dref, mae'n galonogol gwybod bod Porthcawl yn cynnig dyfroedd ymdrochi o'r ansawdd uchaf."
Dosbarthiad ansawdd dŵr rhagorol yw un o'r prif ofynion i wneud cais am wobr Baner Las ar gyfer 2021.
Er bod y pandemig Covid-19 wedi arwain at ohirio dechrau'r tymor dŵr ymdrochi yng Nghymru, gweithiodd CNC yn galed i sicrhau bod samplu'n digwydd ym mhob un o'r 105 o safleoedd ymdrochi o fis Mehefin.
O'r 105 o draethau Cymreig a samplwyd gan CNC, cyflawnodd 84 y dosbarthiad uchaf o ragorol, 14 da a saith yn ddigonol.
Dywedodd yr Arglwydd Elis-Thomas, y Dirprwy Weinidog dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth: "Er ein bod yn gwybod bod cyfyngiadau Covid-19 wedi effeithio ar ein sector twristiaeth a lletygarwch, mae'r canlyniadau hyn yn dangos bod Cymru yn dal i weithio'n galed i sicrhau ansawdd ei dyfroedd ymdrochi - ac edrychwn ymlaen at groesawu ymwelwyr i'r dyfroedd hynny cyn gynted ag y gallwn."