Traeth y dref ar agor yn llawn i’r cyhoedd
Poster information
Posted on: Dydd Iau 20 Mehefin 2019
Mae traeth tref Porthcawl wedi'i ailagor yn llawn i'r cyhoedd unwaith eto ar ôl i’r gwaith ar yr amddiffynfeydd môr newydd gwerth £3m gael ei gwblhau.
Mae'r holl ffensys sy'n weddill ar hyd y promenâd isaf bellach wedi’u symud er mwyn i bobl allu mwynhau cerdded ar hyd y traeth a chael golwg agosach ar y cynllun gwrthglawdd teras newydd sydd wedi'i osod yn lle'r hen ‘draeth tarmac'.
Wedi’u dewis yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus yn 2013, mae'r 185 o derasau mawr wedi'u cynllunio'n arbennig i ddargyfeirio grym pob ton sy'n dod i mewn i'r naill ochr yn hytrach na chaniatáu iddo fwrw lan y môr yn uniongyrchol.
Atgyweiriwyd a chryfhawyd y morglawdd ar hyd y promenâd isaf fel rhan o'r gwaith.
Cyfrannodd Llywodraeth Cymru £2.3m tuag at gost gyffredinol y prosiect, gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cyfrannu’r £700,000 sy'n weddill.
Roedd hwn yn gamp peirianneg arfordirol hynod o heriol lle roedd angen ystyried materion fel patrymau tywydd anrhagweladwy a newidiadau i’r amodau morwrol, ond mae'r ymdrech yn fwy na gwerth chweil.
Bydd yr amddiffynfeydd môr newydd yn gallu gwrthsefyll yr elfennau, gan ddarparu amddiffyniad effeithiol i tua 260 o adeiladau glan môr yn erbyn llifogydd ac erydiad i’r ganrif nesaf.
Mae wedi bod yn ddiddorol gweld y gwaith yn datblygu ac rwy'n siŵr bod pawb yn cytuno bod y cynllun newydd hefyd yn brydferthach na'r hen draeth tarmac.
Cynghorydd Richard Young, Aelod Cabinet Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr dros Gymunedau
Fodd bynnag, daw rhybudd ynghlwm ag archwilio'r terasau newydd, fel yr ychwanegodd y Cynghorydd Young: “Cofiwch mai amddiffynfeydd y môr yw'r terasau ac y gall tyfiant algâu naturiol fod yn llithrig iawn.”