Toiledau cyhoeddus yn ailagor yng ngorsaf fysiau Pen-y-bont ar Ogwr
Poster information
Posted on: Dydd Mercher 29 Gorffennaf 2020
Wrth i'r cyfyngiadau symud barhau i leddfu, mae cyfleusterau toiledau cyhoeddus wedi ailagor yng ngorsaf fysiau Pen-y-bont ar Ogwr.
Mae'r toiledau, y bu'n rhaid eu cau dros dro o ganlyniad i bandemig y coronafeirws Covid-19, ar gael rhwng 10am a 4pm drwy gydol yr wythnos. Maent yn ailagor o dan reolau newydd llym er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd a lleihau'r posibilrwydd o ddod i gysylltiad â'r feirws.
Er mwyn sicrhau bod pobl yn cadw pellter cymdeithasol, bydd arwyddion newydd, rhwystrau dros dro a system 'un i mewn ac un allan' ar waith, a gaiff ei rheoli gan staff yr orsaf fysiau.
Bob tro y defnyddir y cyfleusterau, byddant yn cael eu glanhau cyn i'r unigolyn nesaf allu dod i mewn. Mae peiriannau hylif diheintio dwylo wedi’u rhoi yn y toiledau er mwyn bodloni gofynion hylendid dwylo, a gosodwyd system awyru ychwanegol i sicrhau bod cyflenwad parhaus o aer glân.
Mae ailagor y toiledau yn dilyn cyhoeddiad diweddar gan Lywodraeth Cymru y dylai unrhyw un sy'n defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus bellach wisgo gorchudd wyneb addas.
Wrth i'r wlad geisio adfer ar ôl y cyfyngiadau symud, mae hawl gan ystod ehangach o fusnesau ailagor.
Mae Llywodraeth Cymru yn darparu diweddariadau rheolaidd ar y newidiadau hyn, ac mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn annog preswylwyr i wneud popeth a allant i gefnogi siopau a masnachwyr lleol.
Gobeithiaf y bydd y mesurau newydd a gyflwynwyd gennym i helpu i gadw pobl yn ddiogel pan fyddant yn defnyddio cyfleusterau toiledau cyhoeddus yng ngorsaf fysiau Pen-y-bont ar Ogwr yn cynnig mwy o sicrwydd i siopwyr, ac yn helpu i annog mwy o bobl i siopa'n lleol ac yn ddiogel.
Dywedodd y Cynghorydd Charles Smith, Aelod y Cabinet dros Addysg ac Adfywio