Tocynnau ar gyfer Llwybr Siôn Corn wedi’u gwerthu i gyd
Poster information
Posted on: Dydd Llun 22 Tachwedd 2021
Mae’r tocynnau wedi’u gwerthu i gyd ar gyfer y Llwybr Siôn Corn rhad ac am ddim a gynhelir yng nghanol tref Pen-y-bont ar Ogwr ddydd Sadwrn 27 Tachwedd.
Er mwyn cydymffurfio â chanllawiau Llywodraeth Cymru ynglŷn â phandemig y coronafeirws, bu’n rhaid cyfyngu ar y niferoedd a all gymryd rhan yn y digwyddiad a chynnig slotiau amser penodol drwy gydol y diwrnod.
Caiff Llwybr Siôn Corn ei drefnu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr mewn partneriaeth ag EPM Creative, gyda chyfraniad ariannol gan Gyngor Tref Pen-y-bont ar Ogwr.
Rydym wrth ein bodd â’r ymateb a gafwyd i’r tocynnau ar gyfer Llwybr Siôn Corn eleni, a gobeithio y bydd pawb sydd wedi llwyddo i gael tocyn yn mwynhau’r gwahanol barthau Nadoligaidd.
Oherwydd pandemig parhaus y coronafeirws, rhaid cyfyngu ar y niferoedd, ac mae’r rhai a fydd yn dod draw wedi cael slotiau amser drwy gydol y dydd er mwyn helpu i gadw pawb yn ddiogel.
Gwyddom y bydd rhai’n siomedig eu bod wedi methu â chael tocyn, ond gobeithio y bydd pobl yn deall pa mor bwysig yw sicrhau iechyd y cyhoedd ar hyn o bryd.
Medd Stuart Baldwin, Aelod Cabinet y cyngor dros Gymunedau
Dim ond un ffordd o blith nifer yw Llwybr Siôn Corn o gynnwys ymwelwyr a thrigolion yr ardal yn nathliadau Nadolig y fwrdeistref sirol.
Gan ganolbwyntio ar siopa’n lleol, mae’r awdurdod lleol yn helpu i hyrwyddo busnesau trwy gyfrwng apiau digidol a gwefan Nadolig lle gwahoddir y trigolion a’r ymwelwyr i wneud yn fawr o lu o gynigion, talebau, codau disgownt a mwy. Mae yna gyfle i ennill negeseuon personol gan Siôn Corn, hyd yn oed.
Cadwch lygad ar y cyfryngau cymdeithasol er mwyn gweld fideo yn dangos yr union adeg y bydd y Nadolig yn cyrraedd canol tref Pen-y-bont ar Ogwr yn swyddogol, pan gaiff y goleuadau Nadolig eu goleuo gan Siôn Corn, gyda chymorth Dirprwy Faer Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a Maer Cyngor Tref Pen-y-bont ar Ogwr. Oherwydd y pandemig, ni fydd unrhyw ddigwyddiad cyhoeddus yn cael ei gynnal eleni ar gyfer goleuadau Nadolig canol tref Pen-y-bont ar Ogwr.