Tîm gorfodaeth newydd i helpu i fynd i'r afael â thipio anghyfreithlon
Poster information
Posted on: Dydd Mawrth 30 Mawrth 2021
Bydd tîm gorfodaeth newydd yn gweithio i fynd i'r afael â thipio a phroblemau'n ymwneud â gwastraff ym mwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn ystod yr haf eleni.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi neilltuo cyllid i fynd i'r afael â'r troseddau hyn yn dilyn cynnydd yn nifer y digwyddiadau.
Mae tipio yn golygu gadael gwastraff yn anghyfreithiol, a gall unrhyw un sy'n euog o dipio dderbyn dirwy hyd at £50,000, ac wynebu hyd at chwe mis yn y carchar. Gellir cynyddu hyn i bum mlynedd os oes gwastraff peryglus yn cael ei adael, megis gwastraff gwenwynig neu asbestos.
Er bod Tîm Strydoedd Glanach yr awdurdod lleol yn rhagweithiol wrth adnabod digwyddiadau o dipio anghyfreithlon, ac er bod partneriaeth ar waith gyda gwirfoddolwyr, grwpiau cymunedol a'r gwasanaeth prawf i helpu i glirio gwastraff, bydd y tîm newydd ymroddedig yn gallu canolbwyntio'n llwyr ar y mater dan sylw.
Bydd y tîm gorfodi yn cychwyn eu gwaith yr haf hwn. Yn y cyfamser dylid rhoi gwybod i cleanupthecounty@bridgend.gov.uk am unrhyw ddigwyddiadau o dipio ar dir sy'n cael ei gynnal gan y cyngor, a bydd yn cael ei archwilio a'i glirio os yw'n briodol.
Mae trosedd amgylcheddol yn drosedd ddifrifol felly gwnewch yn siŵr eich bod yn gwneud y dewis iawn wrth gael gwared ar eich gwastraff.
Dywedodd Janine Nightingale, cyfarwyddwr cymunedau'r cyngor
Mae rhaglen ffôn clyfar a gynhyrchwyd gan Taclo Tipio Cymru yn cael ei chyflwyno ledled Cymru i alluogi pobl i recordio digwyddiadau o dipio anghyfreithlon a helpu i ddarparu trosolwg o fannau poblogaidd. Mae'r rhaglen wedi'i noddi gan Lywodraeth Cymru a'i chydlynu gan Adnoddau Naturiol Cymru.
Y gobaith yw y bydd yr ap yn helpu awdurdodau lleol i dargedu ardaloedd problemus a mynd i'r afael â digwyddiadau lle mae gwastraff yn cael ei adael yn anghyfreithlon ar dir.