Teithio hanfodol o dan gyfyngiadau cyfredol yn unig
Poster information
Posted on: Dydd Gwener 08 Ionawr 2021
Mae arwyddion electronig o amgylch Porthcawl yn atgoffa pobl mai dim ond teithio hanfodol a ganiateir o dan y cyfyngiadau lefel pedwar rhybudd presennol.
Daw'r arwyddion, sy'n dweud 'Arhoswch gartref, teithio hanfodol yn unig', ar ôl adroddiadau am nifer fawr o bobl yn gyrru i draethau a mannau prydferth dros gyfnod yr ŵyl.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Heddlu De Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn annog preswylwyr i aros gartref lle bynnag y bo modd.
Rydym yn bryderus iawn ynghylch y nifer o bobl sy'n gyrru i leoedd fel Porthcawl am dro ar adeg pan fo coronafeirws yn dal i fod yn gyffredin iawn yn ein cymunedau. Po leiaf y byddwn yn symud o gwmpas ac yn cael cyswllt â phobl, gorau oll o ran atal y feirws rhag lledaenu.
Mae ymarfer corff yn bwysig ar gyfer iechyd corfforol a meddyliol, a gallwch adael cartref mor aml ag y byddwch yn hoffi ymarfer corff cyn belled â'ch bod yn gwneud hynny o gartref ac ar eich pen eich hun neu gydag aelodau o'ch cartref neu swigen cymorth a/neu ofalwr. Dylai eich ymarfer corff ddechrau a gorffen o'ch cartref. Mae'r heddlu'n parhau i stopio cerbydau gan wneud gwiriadau ar hap, a byddant yn rhoi dirwyon i'r rhai sy'n torri'r rheolau.
Mae ein gwasanaethau iechyd o dan bwysau eithriadol ar hyn o bryd ac mae'n rhaid i ni i gyd wneud ein rhan i amddiffyn ein hunain a'n cymdogion, ein teulu a'n ffrindiau.
Arweinydd y Cyngor, Huw David
Am unrhyw ymholiadau cyffredinol, cysylltwch â chanolfan cyswllt cwsmeriaid Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr:
09:00 to 17:00 Dydd Llun i Ddydd Iau;
09:00 to 16:30 Dydd Gwener.