Technoleg arbed ynni yn cyrraedd ysgolion y Fwrdeistref Sirol
Poster information
Posted on: Dydd Mawrth 26 Hydref 2021
Mae amrywiaeth o fesurau arbed ynni bellach ar waith mewn sawl ysgol ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr er mwyn gwella eu defnydd o ynni, lleihau biliau ynni ac allyriadau carbon.
Cyflwynir rhaglen Refit y cyngor ar y cyd ag Ameresco, arbenigwyr ynni, ac mae ysgolion ac adeiladau cyhoeddus wedi cael amrywiaeth o fesurau, yn cynnwys goleuadau LED, rheolwyr golau, Systemau Rheoli Adeiladau a systemau ffotofoltäig solar.
Gobeithir y bydd y cynllun yn arwain at ostyngiad sylweddol mewn costau ynni a chynnal a chadw blynyddol, yn ogystal â chyfrannu at ymrwymiad yr awdurdod lleol i gyflawni allyriadau sero net carbon erbyn 2030, yn unol â thargedau Llywodraeth Cymru.
Bydd y safleoedd sy’n rhan o'r cynllun yn arbed 249 tunnell o garbon bob blwyddyn, sy’n agos i un miliwn cilowat awr (kWh) o ynni, ac arbed dros £150,000 mewn costau ynni bob blwyddyn.
Mae Ysgol Gynradd Bro Ogwr yn un o’r ysgolion sydd wedi croesawu mesurau arbed ynni.
Mae goleuadau LED newydd wedi cael eu gosod yn yr ysgol, ac mae’r System Rheoli Adeiladau wedi cael ei diweddaru, sy’n golygu y bydd mwy na 84,000 kWh o ynni yn cael ei arbed bob blwyddyn a mwy na £13,000 o gostau ynni. Amcangyfrifwyd hefyd y bydd 21.6 tunnell o garbon yn cael ei arbed bob blwyddyn.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn arwain y sector cyhoeddus o ran ein hymrwymiad i leihau ein cyfraniad at newid hinsawdd. Mae hyn yn unol ag ymrwymiad uchelgeisiol y sector cyhoeddus yng Nghymru i gyflawni allyriadau sero net erbyn 2030.
Rydym yn ceisio gwneud Pen-y-bont ar Ogwr yn fwrdeistref sirol ddatgarbonedig, glyfar wedi'i chysylltu'n ddigidol. Bydd y cynllun Refit yn gymorth sylweddol o ran ein helpu ni i gyflawni’r nod hwnnw. Rydym yn falch o weld fod nifer o ysgolion ac adeiladau cyhoeddus eisoes yn profi’r buddion.
Cynghorydd Richard Young, Cadeirydd y Bwrdd Rhaglen Datgarboneiddio 2030 Pen-y-bont ar Ogwr
Ymhlith y safleoedd sy’n elwa o’r cynllun mae:
- Ysgol Gynradd Bracla
- Gorsaf Fysiau Pen-y-bont ar Ogwr
- Cartref Gofal Bryn y Cae
- Ysgol Gyfun Bryntirion
- Ysgol Gynradd Caerau
- Ysgol Gynradd Cefn Cribwr
- Ysgol Gynradd Llangynwyd
- Ysgol Gynradd Cwm Ogwr
- Ysgol Gynradd Pencoed
- Ysgol Gyfun Pen y Bont
- Ysgol Gynradd y Pîl
- Ysgol Gynradd Plasnewydd
- Ysgol Gynradd Porthcawl
- Ysgol GoR Mair a Phadrig Saint
- Ysgol Gynradd Gatholig St Robert
- Meadow Street, Tondu
- Swyddfeydd Trem y Môr
- Ysgol Gynradd West Park